Plas Glynllifon: yn nwylo'r derbynnydd

Plas Glynllifon Image copyright Winterhill Largo
Image caption Mae gan y plas 102 o ystafelloedd

Mae hen blas yng Ngwynedd wedi cael ei rhoi yn nwylo'r derbynnydd.

Plas Glynllifon yw canolbwynt yr ystâd wledig sydd ryw chwe milltir o Gaernarfon ac mae'r adeilad yn 200 oed.

Roedd gwaith wedi dechrau ar y plas sydd wedi ei gofrestru yn Gradd 1 i'w wneud yn westy ac yn fan i bobl briodi.

Ond dyw'r adeilad sydd gyda 102 o ystafelloedd i gyd ddim wedi ei adnewyddu.

Yn y gorffennol mae'r plas oedd yn arfer bod yn eisteddle i'r Arglwydd Niwbwrch wedi bod yn swyddfeydd ac yn llety ar gyfer coleg amaethyddol.

Oddi mewn i waliau uchel yr ystâd mae amryw o dai, coleg amaethyddol, caffi a gweithdai celf yn ogystal â'r plas ei hun.

Dywedodd David Currie o'r cwmni derbynnydd Winterhill Largo fod Plas Glynllifon yn adeilad, 'unigryw gyda llawer o botensial'.

"Rydyn ni yn darogan y bydd llawer o ddiddordeb gan bobl sydd gyda diddordeb prynu'r lle a gobeithio bydd gan y tŷ ddyfodol llewyrchus."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.