Dysgu Cymraeg: y pres yn cael ei gamgyfeirio

Logo Cymraeg i Oedolion Image copyright Cymraeg i Oedolion
Image caption Mae Ioan Talfryn yn dweud bod y nifer yr oedolion sydd yn cofrestru i ddysgu Cymraeg wedi disgyn

Mae arian tuag at ddysgu Cymraeg i oedolion wedi cael ei gamgyfeirio yn y gorffennol yn ôl tiwtor sydd yn gweithio yn y maes.

Mae Ioan Talfryn sydd yn brif Weithredwr Popeth yn Gymraeg yn dweud bod y pres sydd wedi ei rhoi i hybu mwy i ddysgu'r iaith wedi ei wario 'ar "haenau o fiwrocratiaeth" a ddim ar lawr gwlad.

Ond mae'n croesawu un o brif argymhellion adroddiad newydd oedd yn dweud y dylid sefydlu un corff cenedlaethol i geisio cynyddu'r niferoedd sydd yn dysgu Cymraeg.

Cafodd y grŵp ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru gyda'r bwriad i edrych ar y maes dysgu'r iaith.

Dywedodd Ioan Talfryn ar y Post Cyntaf fore Sadwrn:

"Yr hyn mae llawer ohonom ni yn y maes yn teimlo a dweud y gwir ac mae'r adroddiad yn tanlinellu hynny, ydy bod llawer iawn o arian wedi cael ei wario ar haenau o fiwrocratiaeth ac yn y blaen oedd ddim wir yn mynd i'r rheng flaen sef y darparwyr."

Ffigyrau yn gostwng

Roedd yr adroddiad yn nodi bod ryw 18,000 o oedolion yn dewis cofrestru i gymryd rhan mewn dosbarthiadau Cymraeg i oedolion bob blwyddyn a bod dim llawer o gynnydd wedi bod yn y ffigwr hynny yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Ond mae ef yn honni bod y ffigwr mewn gwirionedd ychydig filoedd yn llai, ryw 16,000 a hynny am fod rhai dysgwyr yn cael eu cyfri dwywaith.

O dan y system bresennol mae modd gwneud cwrs craidd sydd yn gwrs cyson wythnosol neu gyrsiau eraill megis rhai undydd neu ysgolion haf: "Yr hyn sydd yn amlwg o'r ffigyrau yw bod y niferoedd y dysgwyr craidd wedi gostwng ac mae'n rhaid cofio hefyd bod llawer o'r dysgwyr ar y cyrsiau atodol yma wedi eu cofnodi yn barod ar y cyrsiau craidd."

'Rhwng dwy stôl'

Ar y Post Cyntaf dywedodd y tiwtor Cymraeg hefyd bod y canolfanau Cymraeg a gafodd ei sefydlu ar draws Cymru yn 2006 wedi 'syrthio rhwng dwy stôl':

"Dydyn nhw ddim yn naill beth neu'r llall. Dydyn nhw ddim yn gorff cenedlaethol. Dydyn nhw ddim yn ddarparwyr lleol ymhob rhan o Gymru, efallai eu bod nhw mewn ambell ran o Gymru...

"Felly tacluso'r peth sydd angen ei wneud. Mae angen cryfhau'r pen a'r gwreiddiau ar yr un pryd. Mae'r arian wedi mynd i'r canol sydd ddim yn gallu gwneud naill beth neu'r llall."

Dywed ei fod yn croesawu'r syniad o gael un corff cenedlaethol ond bod hi yn bwysig bod digon o arian ar gael:

"Dw i'n cytuno gyda Heini (Gruffudd) bod angen dyblu'r arian Cymraeg i oedolion ac ar yr un pryd yn cytuno gyda y bobl hynny sydd yn dweud bod eisiau cryfhau y darparwyr ar y gwaelod. Felly dydyn ni ddim eisiau colli'r ddau beth."

Straeon perthnasol