Tân wedi diffodd ar draeth poblogaidd

Traeth Poppit, Sir Benfro
Image caption Cafodd y dynion tân ei galw i draeth Poppit bore Sul

Mae'r gwasanaethau tân wedi bod yn taclo tân gwair ger traeth poblogaidd yn Sir Benfro.

Cafodd tri o griwiau ei hanfon wedi deg bore Sul i ddelio gyda'r fflamau wrth ymyl traeth Poppit yn Llandudoch ger Aberteifi.

Ond mae'r tân bellach wedi diffodd. Roedd wedi lledaenu ar draws saith acer a hanner o dir ar draws y traeth a thwyni.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.