Ifor ap Glyn yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol 2013

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dyma'r eildro i Ifor ap Glyn ennill y Goron

Ifor ap Glyn o Gaernarfon sydd wedi cipio Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau.

Rhoddwyd y Goron am gyfres o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun 'Terfysg'.

Y beirniaid oedd Ceri Wyn Jones, John Gruffydd Jones a Geraint Lloyd Owen.

Roedd 29 o feirdd wedi cystadlu yn y gystadleuaeth eleni.

Ond Ifor ap Glyn, dan y ffugenw 'Rhywun Arall' ddaeth i'r brig, am gasgliad o gerddi yn ymwneud â chanlyniadau Cyfrifiad 2011.

'Gwreiddioldeb'

Wrth draddodi'r feirniadaeth yn y seremoni yn y Pafiliwn brynhawn dydd Llun, dywedodd Ceri Wyn Jones, fod 'na "wreiddioldeb, dychan a hiwmor" yn y gwaith i "gydbwyso'r digalondid."

Disgrifiodd Ifor ap Glyn fel bardd "galluog".

"Mae Rhywun Arall yn cychwyn ei gasgliad yn syllu ar ganlyniadau Cyfrifiad 2011 ar sgrîn ei gyfrifiadur, ac mae ei lygaid yn brifo wrth iddo weld y rhifau", meddai'r beirniad.

"Ond nid cerddi ddoe ydynt na chwaith cerddi trwm i gyd, oherwydd mae gwreiddioldeb dweud, dychan a hiwmor Rhywun Arall yn cyd-bwyso'r digalondid. Ac mae hefyd yn gallu chwerthin am ei ben ei hun ac yn medru bod yn ddamniol o ddeifiol.

"Personoliaeth y bardd galluog hwn, ynghyd â thynged yr iaith Gymraeg ei hun, sy'n rhoi unoliaeth i'r casgliad cyfoethog hwn, casgliad i ddyfru a sobri am yn ail."

Cefndir

Magwyd Ifor ap Glyn yn Llundain ac ar ôl graddio o Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd a byw yno am gyfnod, symudodd i Ddinbych, cyn ymgartrefu yng Nghaernarfon gyda'i deulu.

Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni Da ac maen wedi ennill sawl gwobr am ei waith ym maes hanes a rhaglenni ffeithiol.

Fel bardd, mae wedi perfformio'i waith ar draws y byd. Yng Nghymru, mae'n aelod o dîm Talwrn Caernarfon, a bu'n Fardd Plant Cymru rhwng 2008 a 2009.

Cyhoeddwyd pedair cyfrol o'i waith ac enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Môn.

Cafodd yr artist a gemydd lleol Andrew Coomber ei gomisiynu i greu'r Goron ac fe gwblhaodd y gwaith gyda chymorth myfyrwyr celf o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.

Roedd y Goron yn rhodd gan Gangen Sir Ddinbych a Fflint o Undeb Amaethwyr Cymru a chafodd ei hysbrydoli gan dirwedd a lliw ardal amaethyddol Dyffryn Clwyd a Moel Famau.

Cafodd y Goron ei chreu o 150 o ddarnau unigol, gyda phedwar darn o alwminiwm wedi eu lliwio ar y gwaelod, a darlun wydr o Dŵr y Jiwbilî ar Foel Famau ar ei phen.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.