TNS yn herio Legia Warsaw

TNS - Legia Image copyright Getty Images
Image caption Mae disgwyl y bydd dros 20,000 o gefnogwyr yn gwylio TNS yn herio Legia Warsaw yng Nghynghrair y Pencampwyr

Mae disgwyl i dorf o 20,000 wylio TNS yn herio Legia Warsaw yn rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr nos Fercher.

Collodd y Seintiau Newydd o 3-1 yn y cymal cyntaf yn Wrecsam, ac mae'r rheolwr Craig Harrison yn disgwyl gêm anodd yn Warsaw heno.

Ond er bod ei dim angen perfformiad eithriadol o dda i gyrraedd y rownd nesaf, mae gan y rheolwr ffydd yn ei chwaraewyr.

"Rydym ni'n mynd yno i geisio ennill y gêm - rydym ni'n edrych am welliant ers y cymal cyntaf," meddai.

"Yn amlwg os ydyn ni'n curo 3-0 gyda 10 munud i fynd mae hynny'n fater arall, ond byddai ennill o 1-0 neu cael gem gyfartal yn welliant."

Ond mae Harrison yn ymwybodol o'r dasg enfawr sy'n wynebu ei dîm.

"Yn amlwg mae hi'n dasg anodd i geisio sgorio tair gôl oddi cartref yn Warsaw, o flaen torf unochrog.

"Maen nhw'n disgwyl rhwng 20,000 a 25,000 o bobl - bydd yna sŵn enfawr a bydd hi'n anodd iawn, ond mae rhaid i ni fwynhau ein hunain."

Bydd Y Seintiau Newydd yn chwarae Legia Warsaw am 7.45yh nos Fercher.

Straeon perthnasol