Taith drama Aberfan yn achosi ffrae

Ym ymdrech achub yn Aberfan Image copyright PA
Image caption Bu farw 144 o bobl, 116 ohonynt yn blant yn nhychineb Aberfan yn hydref 1966.

Mae un o'r rhai a oroesodd trychineb Aberfan wedi galw ar gynhyrchwyr drama newydd i ganslo taith i'r Alban.

Fis nesaf bydd Children of Mine yn cael ei pherfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin gan griw o blant o Gymru sydd yn eu harddegau.

Mae enwau ffug yn cael eu defnyddio i adrodd stori trychineb 1966, pan gafodd yr ysgol leol ac 18 o dai eu claddu ar ôl i domen lo lithro lawr y mynydd.

Dinistriwyd Ysgol Gynradd Pantglas yn Aberfan, gan ladd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant.

Roedd Bernard Thomas ymhlith y rhai a lwyddodd i ddianc o'r ysgol, ond fe gollodd ddau o'i gefndryd yn y trychineb.

Caeredin

Mae'n honni bod y cwmni sydd yn cynhyrchu'r ddrama wedi methu ag ymgynghori gyda'r goroeswyr sydd yn dal i fyw yn y pentref.

"Na, dwi ddim yn meddwl y dylai'r ddrama gael ei llwyfanu o gwbl, yn enwedig gan na chafodd unrhyw un ei holi am y peth o'r cychwyn cyntaf. Doedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen."

Mark Jermin sydd wedi ysgrifennu a chyfarwyddo'r sioe, ac mae wedi amddiffyn y penderfyniad i fynd â'r ddrama i Gaeredin.

Image caption Actorion ifanc o Gymru fydd yn perfformio yng Nghaeredin

"Yn amlwg mae'n bwnc sensitif iawn, ac iddo barhau i fod yn bwnc mor gignoeth mae'n rhaid cael cyfle i roi eli ar y briw.

"Dydw i ddim wedi ceisio creu dadl, ond dwi o'r farn ei fod yn ddarn hynod bwysig, ac yn a ddylai gael ei gofio."

Yn ôl deunydd hyrwyddo'r sioe, mae Children of Mine yn "deyrnged i Aberfan, ei phobl a'u galar" sydd yn "cyflwyno'r gynulleidfa i slyri du trwchus y difrodi, yn mathru cryfderau a sefydlogrwydd corfforol a meddyliol ei chymeriadau."

Ymateb chwyrn

Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yng Nghaeredin rhwng Awst 3 a 24.

Roedd ymateb chwyrn gan rai o oroeswyr trychineb Aberfan pan berfformiwyd y ddrama'r llynedd.

Y tro hwnnw fe gynhaliwyd y perfformiadau y tu ôl i ddrysau caeedig, gyda rhieni a ffrindiau'r cast yn y gynulleidfa.

Dwedodd Mr Jermin: "Y llynedd, cynhyrchiad gweithdy ar gyfer myfyrwyr a rhieni oedd y sioe, a'r tro yma mae'r cynhyrchiad wedi cael ei adnewyddu gyda llai o gymeriadau ar y llwyfan.

"Mae'n eithaf angerddol, ac yn amlwg mae'r testun yn sensitif iawn, ond fel artist rydw i'n teimlo bod y sioe yn cyfathrebu ac yn gwneud y pwnc yn un blaenllaw."

Mae un arall o oroeswyr trychineb Aberfan, Gareth Jones, wedi dweud ei fod e'n gefnogol o ymdrechion i bortreadu'r hyn a ddigwyddodd yn y pentref, ond mae'n teimlo na chafodd y gymuned gyfle i fynegi barn am y daith i Gaeredin.

"Mae'n teimlo fel petai pobl yn ceisio gwneud arian allan o'n tristwch, a dyna beth dwi ddim yn hoffi.

"Ydw, dwi am i stori Aberfan gael ei hadrodd am ganrifoedd, mae'n rhan o'n hanes, ond dydw i ddim yn meddwl dylai rhai wneud arian o'n tristwch.

Anhapus

"Dwi o'r farn y dylai'r cynhyrchwyr ymgynghori gyda phobl yn gyntaf, fel pob cwmni cynhyrchu arall sydd wedi dod yma ar gyfer straeon eraill.

"Bydden nhw'n cael eu croesawu gyda breichiau agored," meddai.

Mae un o'r actorion sydd yn y ddrama, Samantha Spragg, yn byw yn Aberfan.

Dwedodd ei bod hi'n derbyn bydd rhai yn anhapus gyda'r cynhyrchiad.

"Gan fy mod i'n dod o'r pentref mae'n anodd iawn i fi, gan fy mod i ddim am achosi loes i bobl dwi'n 'nabod.

"Ond rydw i o'r farn fod rhaid adrodd y stori oherwydd bod cymaint o bobl sydd ddim yn gwybod beth ddigwyddodd, a dwi wir yn meddwl bod hyn yn rhywbeth dylai pawb wybod amdano achos mae'n ddigwyddiad mor bwysig yn hanes Cymru."

Straeon perthnasol