Legia Warsaw 1-0 Seintiau Newydd

Mae'r Seintiau Newydd allan gystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr ar ôl colli oddi cartref yng Ngwlad Pwyl.

Er hyn brwydrodd y Seintiau yn galed gan ildio un gôl yn unig.

Wladimer Dvalishvili' sgoriodd i'r tîm cartref ar ôl 53 munud, gan roi buddugoliaeth dros y ddau gymal o 4-1.

Cafodd golgeidwad y Seintiau Craig Harrison gem wych wrth gyfyngu y Pwyliaid i un gol.

Ond ar ôl colli o 3-1 yn y cymal cyntaf ng Nghymru, roedd y bwlch yn ormod i'r Seintiau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.