Heddlu eisiau holi au pair

Mae heddlu'r de yn ceisio canfod au pair o Ffrainc sydd wedi bod yn gweithio ym Mro Morgannwg.

Mae gwarant wedi ei chyhoeddi i holi Emeline Marie Essertel am ei bod wedi torri amodau mechniaeth ac mae'r heddlu yn credu y gallai'r ferch 23 oed fod yn ardal Llundain.

Mae'n cael ei disgrifio fel merch pum troedfedd a chwe modfedd gyda gwallt byr syth brown a llygaid brown.

Gofynnir i unrhyw un sydd wedi ei hadnabod neu sydd gydag unrhyw syniad lle y gallai fod i gysylltu gyda'r swyddog heddlu Nicola Owen yng ngorsaf heddlu Llanilltud Fawr trwy ffonio 01656 869447 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111 a rhoi'r cyfeirnod 62130028933.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.