Ysbyty Athrofaol Cymru yn 'beryglus' yn ôl meddygon

Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd
Mae llawfeddygon yn dweud bod dros 2000 o driniaethau wedi eu gohirio neu eu canslo o fewn 3 mis

Mae rhai adrannau o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn "beryglus", ac mae cleifion yn "marw yn rheolaidd" tra'n aros am lawdriniaethau.

Dyna mae rhai o lawfeddygon yr ysbyty ei hun yn honni, mewn adroddiad ddaeth i law BBC Cymru.

Ynddo, mae llawfeddygon yn dweud bod cyflwr cleifion yn aml yn gwaethygu, neu pobl hyd yn oed yn marw, tra ar rhestrau aros, a bod dros 2000 o lawdriniaethau wedi eu gohirio mewn cyfnod o dair mis, oherwydd bod adrannau gofal brys methu delio hefo'r holl gleifion sydd angen triniaeth.

Daeth y problemau i'r amlwg yn ystod ymweliad i'r ysbyty gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS), sydd wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd i ddatgan eu pryderon.

Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud bod y problemau yn "annerbyniol", ac wedi ymddiheuro i gleifion.

Mae'n dweud bod y problemau wedi eu hachosi gan bwysau "di-ddiwedd" ar wasanaethau gofal brys.

'Consensws'

Mae'r adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn dweud bod "consensws" ymysg meddygon bod gwasanaethau yn yr ysbyty yn "beryglus" ac o "safon isel". Mae'n dweud bod angen i'r bwrdd iechyd roi sylw "fel mater o frys" i fynd i'r afael hefo'r problemau.

Dywedodd yr RCS bod yr ymweliad i'r ysbyty wedi amlygu nifer o broblemau oedd yn "risg sylweddol i gleifion".

Ymysg y cwynion gan feddygon oedd bod cleifion oedd yn aros am driniaeth ar y galon yn dioddef oherwydd rhestrau aros hir.

Cafodd llawdriniaethau ar blant, i dynnu tonsiliau neu rhoi gromedau yn y glust eu gohirio.

Dywed bod adrannau gofal brys yn llawn, gyda chleifion yn cael eu cadw mewn coridorau neu ambiwlansys.

Y gwyn fwyaf oedd bod dros 2000 o lawdriniaethau wedi eu gohirio neu wedi eu canslo yn llwyr oherwydd diffyg gwlau, yn nhri mis cyntaf eleni.

Y brif reswm am hyn yn ôl yr RCS yw "methiant yr ysbyty i reoli mynediadau cleifion brys, ac anallu i ryddhau cleifion yn effeithiol".

'Ffiaidd'

Y llynedd, roedd Susan Watkins o Dredegar yn aros i gael llawdriniaeth ar y galon yn yr ysbyty, dywedodd y meddygon y byddai rhaid iddi aros chwe wythnos.

Chwe mis yn ddiweddarach doedd Ms Watkins dal heb ei thrin, a bu farw ar 12 o Ragfyr, yn 51 oed.

Susan Watkins
Bu farw Susan Watkins tra'n aros am lawdriniaeth ar y galon yn yr ysbyty

Mae ei merch , Sarah, yn dweud bod y gofal gafodd ei mam yn annerbyniol.

"Mae'n ffiaidd i ddweud y gwir. Mae pobl yn rhoi eu ffydd yn y gwasanaeth iechyd, ac mae pobl yn disgwyl cael gofal o safon."

"Ond y gwir ydy bod pobl yn marw oherwydd diffyg gofal."

Ymddiheuro

Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro, ac mae'n dweud bod gwelliannau yn cael eu gweithredu, i sicrhau nad ydy gofal brys yn effeithio ar lawdriniaeth i gleifion eraill, yn cynnwys plant:

"Rydw i wedi ymddiheuro i'n cleifion. Dyw hwn ddim yn sefyllfa i ni fod yn falch ohono. Mae angen i ni wneud yn well, a'r gwir yw y gallwn, ac y byddwn, yn gwneud hynny," meddai Adam Cairns.

"Rhaid i ni brofi ein bod yn cydnabod bod problemau yn bodoli, ac fe rydym ni, a phrofi bod ein cynllun i ddod i'r afael â'r problemau yn gweithio. Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun dros y dyddiau nesaf i'r cyhoedd gael ei weld."

Mae Adam Cairns yn gwadu mai effaith toriadau ariannol sydd wrth wraidd y problemau yn yr ysbyty, wrth i fyrddau iechyd dros Gymru geisio arbed arian:

Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd
Mae'r prif weithredwr wedi gwadu mai arbed arian oedd y rheswm dros ohirio llawdriniaethau

"Mae pob bwrdd iechyd dan bwysau ariannol, mae hynny'n ffaith. Un o'r honiadau sy'n cael ei wneud yn yr adroddiad yw ein bod ni yn lleihau neu canslo triniaethau i arbed arian. Gallaf ddweud yn bendant nad oedd hynny yn digwydd.

"Cafodd y problemau eu hachosi gan bod gormod o gleifion yn ein system gofal brys, a'n methiant i dderbyn mwy o gleifion oherwydd hynny. Nid oedd y problemau o achos ein sefyllfa ariannol."

Cynllun waith

Roedd yr RCS wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn dilyn eu hymweliad â Ysbyty Athrofaol Cymru, a dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod y gweinidog iechyd wedi cyfarfod hefo'r RCS i drafod:

"Roedd y Gweinidog Iechyd yn pryderu am adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r risgiau i safonau yr oedd yn ei amlygu."

Yn ôl y Llywodraeth mae cynllun gwaith wedi ei ffurfio i ddelio hefo'r pryderon, ac "mae'r gweinidog yn cael ei hysbysu am welliant yn yr ysbyty yn rheolaidd."

Mae'r RCS wedi dweud y byddan nhw yn ymweld â'r ysbyty eto ym mis Medi i adolygu'r sefyllfa:

"Ar hyn o bryd mae hi'n rhy gynnar i ddweud os bydd y cynllun gwaith yn ateb ein pryderon," meddai'r RCS.

"Ond rydym ni wedi cytuno y bydd Bwrdd Materion Proffesiynol yr RCS yn ymweld â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn Medi 2013 i asesu'r gwelliant."