Carchar am oes i ddau am ladd ffarmwr

Parker and Smith
Disgrifwyd Frankie Parker a Gary Smith fel lladron professiynol

Mae dau leidr wnaeth guro pensiynwr bregus i farwolaeth wedi cael eu dedfrydu i garchar am oes.

Llofruddiwyd Llywelyn Thomas, 76, oedd yn wreiddiol o dde Cymru yn dilyn ymosodiad yn ei gartref yn Sir Caergrawnt ym mis Rhagfyr 2011.

Bydd Gary Smith, 21, yn treulio o leiaf 22 mlynedd yn y carchar a'i nai Frankie Parker, 26, o leiaf 24 mlynedd.

Roedd y ddau wedi beio ei gilydd am y digwyddiad yn ystod yr achos.

Roedd Mr Thomas yn wreiddiol o Gymru lle bu'n ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr am flynyddoedd.

Symudodd i Sir Caergrawnt wedi iddo ymddeol.

Wrth ddarllen y ddedfryd dywedodd y barnwr Mr Ustus Singh: "Roedd Frankie Parker a Gary Smith yn ladron proffesiynol oedd wedi paratoi yn ofalus.

"Efallai oherwydd nad oedd Mr Thomas yn gallu eu darparu gyda chynnwys coffor neu oherwydd eu bod yn poeni y gallai ef ei hadnabod, fe wnaethant ymosod arno.

"Roedd y ddau yn rhannu'r bwriad o ladd.

"Gall rhywun ond dychmygu'r anobaith a'r ofn wnaeth Mr Thomas ei deimlo yn ystod eiliadau olaf ei fywyd.

"Wnaeth Frankie Parker and Gary Smith ddim dangos unrhyw drugaredd droso, dim ond gadael iddo farw mewn pwll o waed."