Dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad

Mae dyn 54 wedi marw yn dilyn ymosodiad tu allan i dafarn yn Abergele.

Mae'r heddlu yn parhau i gyfweld â dyn a dynes leol mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru fe ddigwyddodd yr ymosodiad nos Iau ond ni chafodd nhw eu hysbysu tan fore Sadwrn.

Maen nhw'n credu fod yr ymosodiad wedi digwydd tu allan i dafarn Pen-y-Bont am tua 10:30pm.

Dylai unrhywun sydd â gwybodaeth am y mater gysylltu â'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.