Ymgeiswyr yn datgan eu barn ar Wylfa

  • 29 Gorffennaf 2013
Wylfa B
Mae pedwar ymgeisydd o blaid Wylfa B a dau yn gwrthwynebu

Ddiwrnodau yn unig cyn isetholiad Ynys Môn mae'r chwe ymgeisydd wedi bod yn dweud eu barn ar Wylfa B.

Mae'r cynlluniau i ddatblygu pwerdy niwclear newydd ar safle'r un presennol, sy'n prysur ddod at ddiwedd ei oes, wedi bod yn un o'r prif bynciau trafod wrth i Awst 1 agosáu.

Mae sedd cynulliad Ynys Môn yn wag ers i'r cyn-ddeilydd Ieuan Wyn Jones ymddiswyddo er mwyn rhedeg Parc Gwyddoniaeth Menai.

Y chwe ymgeisydd yw: Nathan Gill, Ukip; Neil Fairlamb, Ceidwadwyr; Kathrine Jones, Plaid Lafur Sosialaidd; Tal Michael, Llafur; Steve Churchman, Democratiaid Rhyddfrydol a Rhun ap Iorwerth, Plaid Cymru.

Roedd y chwech yn siarad gyda Vaughan Roderick ar raglen Sunday Supplement y BBC yn ateb y cwestiwn: beth yw eich barn ar Wylfa B?

Gwrth-niwclear

Mae Kathrine Jones o'r Blaid Lafur Sosialaidd yn eglur iawn ynglŷn â barn ei phlaid hi, sydd â pholisi gwrth-niwclear cryf.

"Rwy'n sefyll dros y Blaid Lafur Sosialaidd ac mae ein polisi gwrth-niwclear ni yn glir iawn.

"Fydden ni ddim yn mynd i glymblaid a fyddai'n gwanhau ein llais, bydded hynny yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd.

"Rydym ni'n gryf yn erbyn y syniad o gael gwastraff niwclear ar safle am 150 o flynyddoedd heb gael ei symud - dylai hyd yr amser yna ei hun ein rhybuddio ni.

"Fe wnaeth yr Almaen roi'r gore i gynhyrchu trydan drwy bŵer niwclear yn dilyn trychineb Fukushima - os ydyn nhw'n gallu gwneud hynny, pam na allwn ni?"

'Ystyried dewisiadau eraill'

Mae neges Steve Churchman yr un mor glir - mae o hefyd yn gwrthwynebu datblygiadau niwclear.

"Mae fy mhlaid yn wrth-niwclear a dyna fy safbwynt i hefyd," meddai.

"Dydw i ddim yn credu y bydd y prosiect yn creu'r swyddi ar gyfer pobl leol, yn wahanol i beth sy'n cael ei ddweud wrthym."

Dywedodd ei fod yn gresynu'r ffaith bod ei blaid wedi gorfod cyfaddawdu ar y mater fel rhan o'r glymblaid yn San Steffan.

"Gan nad oes gennym sicrwydd y byddai swyddi lleol yn cael eu creu, rwy'n ofni y gallai ddod â phobl yma a fyddai'n tanseilio cymunedau ar yr ynys.

"Rwy'n cydnabod y byddai rhai swyddi'n cael eu creu ond mae'n rhaid i ni ystyried y dewisiadau eraill hefyd."

'Rwy'n dweud ie'

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Dwi'n bod yn glir iawn, alla i ddim ei wneud o'n gliriach: rwy'n dweud 'ie' i Wylfa B."

Roedd Mr Roderick wedi gofyn iddo a oedd hynny'n cyd-fynd gyda pholisi Plaid Cymru o wrthwynebu pŵer niwclear.

Yn ôl Mr ap Iorwerth mae ei agwedd yn un bragmataidd gan mai yn San Steffan fydd y penderfyniad dros ddyfodol y pwerdy'n cael ei wneud, nid ym Mae Caerdydd.

"Mae Plaid Cymru yn blaid sydd, yn wahanol i bleidiau eraill, yn trafod materion gan wneud penderfyniadau ar sail beth sydd orau i Gymru," meddai.

"Fe fyddwn i yn defnyddio fy nylanwad fel aelod cynulliad dros Fôn o fewn y ffiniau fel y maen nhw rŵan - hynny yw bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn Llundain ond y peth olaf ddylen ni wneud yma ym Môn ydi gadael iddo ddigwydd heb sicrhau mai pobl yr ynys sydd wrth galon y datblygiad."

'Neges glir'

Mae Neil Fairlamb o blaid y datblygiad, ac fe ymosododd ar safbwynt Rhun ap Iorwerth yn ystod ei gyfraniad.

"Nid cymdeithas drafod yw hwn. Nid dadlau ydym ni ond gwneud penderfyniad wnaiff effeithio ar fywydau llawer iawn o bobl.

"Dylai'r blaid a'r ymgeisydd ganu o'r un daflen emynau.

"Hitachi yw'r bobl sy'n bwriadu ariannu'r prosiect hwn ac ei gymryd i'r cam lle rydym yn edrych ar fuddsoddiad sylweddol.

"Dydyn nhw na'u cefnogwyr ddim eisiau gweld aelod cynulliad sydd â neges sy'n gwrth-ddweud safbwynt ei blaid.

"Maen nhw eisiau neges glir o gefnogaeth ar y mater - rhywbeth mae'r Ceidwadwyr a Llafur yn ei ddarparu."

'Catalyst'

Mae ymgeisydd Llafur Tal Michael ar y llaw arall yn gryf o blaid gweld y datblygiad yn mynd yn ei flaen.

"Rwy'n credu mai'r hyn rydym angen ei wneud yn ystod y cam nesaf yw sicrhau bod Wylfa yn gatalyst am fwy o waith.

"Mae angen gwneud yn siŵr ei fod yn digwydd, ac yn digwydd mewn ffordd sydd o fudd i bobl leol drwy sicrhau hyfforddiant a swyddi iddynt - mae amcangyfrif y gall 60% o'r swyddi fod yn rhai lleol.

"Mae llawer o bobl wedi symud i ffwrdd oherwydd y diffyg cyfloedd am swyddi - teuluoedd fel fy un i aeth i chwilio yn rhywle arall am waith.

"Yn fy marn i mae'n bwysig y bod gennym ni eglurder ar lefel Gymreig ar â oes cefnogaeth i'r prosiect yma a'u peidio."

'Addewidion gwag'

Yn ôl Nathan Gill ei flaenoriaeth ef yw sicrhau mai pobl leol fydd yn derbyn swyddi yn sgil unrhyw ddatblygiad.

"Rydym yn gweld niwclear fel rhan o gymysgedd synhwyrol o wahanol ffynonellau o bŵer.

"Ond rwy'n teimlo fod Plaid a Llafur yn bod yn ffuantus iawn am hyn - rydym wedi clywed gan Tal sut mae'n credu y bydd 60% o'r swyddi yn mynd i bobl leol a sut y bydd y gwaith adeiladu yn mynd i gwmnïau lleol.

"Dyw hynny ddim yn wir, addewidion gwag ydyn nhw.

"Does dim ffasiwn beth â chyfraith sy'n dweud 'swyddi Prydeinig ar gyfer gweithwyr Prydeinig' - dyw'r ffasiwn beth ddim yn bodoli."

Mae'r isetholiad yn digwydd ar Awst 1.