Atal pobl rhag byw mewn carafanau?

  • 29 Gorffennaf 2013
Caravan Park
Mae Darren Millar yn honni bod angen newid y drefn er mwyn budd y diwydiant

Mae'r cynulliad yn ystyried ei gwneud hi'n anghyfreithlon i bobl fyw mewn carafannau sefydlog drwy gydol y flwyddyn.

Yn ôl Darren Millar, yr AC dros Orllewin Clwyd sy'n cynnig y syniad, mae miloedd o bobl yn byw mewn carafannau ledled Cymru.

Mae'n dweud bod hyn yn rhoi straen ar y gwasanaeth iechyd a chynghorau gan nad yw'r bobl hyn yn talu treth cyngor.

Ond mae rhai'n dadlau y byddai cyflwyno deddf newydd yn gorymateb i'r broblem.

Mesur aelod unigol

Mae ymgynghoriad wedi cael ei sefydlu er mwyn gofyn barn pobl ynglŷn â'r cynnig i ddeddfu yn erbyn gadael i bobl fyw mewn carafanau sefydlog drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r cynulliad yn ystyried ei gwneud hi'n anghyfreithlon i bobl fyw mewn carafanau sefydlog drwy gydol y flwyddyn.

Ym mis Ebrill fe gafodd enw Mr Millar ei dynnu o het yn y senedd, gan roi'r cyfle iddo gyflwyno mesur aelod unigol i'r cynulliad.

Byddai'r mesur yn cael ei gwneud yn gyfraith petai mwyafrif o'r aelodau yn pleidleisio o'i blaid.

Hwn yw'r ail dro i Mr Millar gael y cyfle i gyflwyno deddf - fe gafodd ei ymgais cyntaf, sef i godi treth ar wm cnoi, ei wrthod gan aelodau.

Carafanau

Dadl Mr Millar yw na ddylai'r miloedd o bobl mae'n honni sy'n byw yn y carafanau gael gwneud hynny oherwydd nad ydynt yn talu am dreth cyngor.

Yn ôl Mr Millar mae hyn yn rhoi straen annheg ar awdurdodau lleol yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd.

Dywedodd: "Er bod y diwydiant yn un llwyddiannus, nid yw heb ei broblemau.

"Rwy'n ymwybodol fod canran fach o reolwyr safleoedd a phreswylwyr yn gwrthod cadw at ysbryd y gyfraith, nac at y gyfraith yn llythrennol chwaith.

"Rwy'n gweld hyn fel perygl i'r diwydiant cyfan.

"Rydym eisiau clywed barn perchnogion meysydd carafanau. Rydym eisiau clywed gan bobl sy'n byw mewn carafanau, yn ddienw os oes rhaid, ac rydym eisiau clywed gan unrhyw un sydd â barn ar y mater."

Ymchwil

Fe wnaeth Cyngor Conwy gynnal ymchwil yn ddiweddar er mwyn ceisio cael syniad o faint y broblem.

Yn ôl y dyn wnaeth cadeirio'r pwyllgor wnaeth ymgymryd â'r gwaith, y cynghorydd Bob Squire, mae'n broblem sylweddol yng Nghonwy.

Dywedodd: "Mae nifer o bobl wedi rhoi'r gora' i fyw mewn tai traddodiadol er mwyn byw mewn rhywle rhatach.

"Mewn rhai achosion mae pobl wedi gwerthu neu rentu eu tai i eraill tra'n byw mewn rhywle arall.

"Darganfyddodd ein hymchwil fod 5,000 o bobl yn byw mewn carafanau gwyliau yng Nghonwy yn unig.

"Dydyn nhw ddim yn talu treth cyngor a dydyn ni'n cael dim arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gyfrannu tuag at y gost o'r gwasanaethau maent yn eu defnyddio.

"Mae'r gost i Gyngor Conwy yn sylweddol ac mae'r bobl yma hefyd yn rhoi straen ar y gwasanaeth iechyd."

'Darn o bapur'

Ond dyw Mark Whitehouse, sy'n rhedeg parc gwyliau yn Nhowyn, ddim yn cytuno bod angen deddf.

Mae'n dweud ei fod ef yn gweithio'n galed er mwyn atal pobl rhag torri'r rheolau ac y dylai berchnogion eraill wneud yr un fath.

"Mae hyn yn ymwneud ag adnabod eich parc ac adnabod eich cwsmeriaid.

"Dydw i ddim yn credu bod y broblem mor ddrwg ag y mae pobl yn ddweud - mae yn digwydd, y rhan fwyaf o'r amser oherwydd newid mewn amgylchiadau pobl.

"Mae enghreifftiau fel cwpl yn ysgaru a'r tad yn gorfod symud allan o dŷ'r teulu. Dyna sy'n digwydd rhan amlaf yn hytrach na pharciau gwyliau yn torri'r gyfraith.

"Mae gan awdurdodau lleol eisoes bŵer i fynd i'r afael â pharciau sy'n achosi problemau, ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud.

"Gweithredu'r gyfraith yw'r ateb yn hytrach na chyflwyno deddf newydd - deddf fyddai ond yn ddarn o bapur."

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg tan Medi 12.