Casnewydd yn curo Villa

Casnewydd
Image caption Daeth Casnewydd yn 3ydd yn y gynghrair flwyddyn diwethaf, gan sicrhau dyrchafiad drwy'r gemau ail gyfle

Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi curo Aston Villa 5-2 mewn gêm gyfeillgar.

Bydd y canlyniad yn hwb i'r clwb fydd yn dechrau ar eu tymor cyntaf yng nghynrair Lloegr ers 25 mlynedd ym mis Awst.

Villa sgoriodd gyntaf ond fe wnaeth Christian Jolley ddod a Chasnewydd yn ôl yn gyfartal cyn i Danny O'Brien roi'r tîm o Firmingham yn ôl ar y blaen.

Fe ddaeth Andrew Hughes oddi ar y fainc i'w gwneud hi'n gyfartal, ac yn ystod yr ail hanner fe sgoriodd Minshull ddwywiath a Jolley eto er mwyn rhoi buddugoliaeth gofiadwy i Gasnewydd.

Bydd tymor Casnewydd yn dechrau ar ddydd Sadwrn Awst 3 wrth iddyn nhw groesawu Accrington Stanley i Rodney Parade.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.