'Eisteddfodau hanesyddol' Dinbych

Arwydd diheintio
Image caption Roedd pob cerbyd yn gorfod mynd trwy system ddiheintio wrth gyrraedd y Maes yn 2001

"Ydi'ch car chi'n lân?" oedd cwestiwn yr arwyddion wrth i eisteddfodwyr ddynesu at Faes y Genedlaethol ar gyrion Dinbych yn 2001.

Gyda chlwy' traed a'r genau yn gwmwl dros y wlad nid oedd mynediad i'r meysydd parcio i geir budron gydag ôl mwd a llaid arnyn nhw.

Ar ben hynny, yr oedd yn rhaid gyrru trwy bwll dwy droedfedd o ddisinffectant!

Oherwydd y rheolau cafodd un bardd, Twm Morys, ei brocio i gyfansoddi cerdd ddeifiol i'r perwyl fod rhwydd hynt i faeddu'r iaith ar y Maes ac anwybyddu'r rheol Gymraeg - cyn belled bod eich car chi'n lân.

Fel eraill o 'steddfodau Dinbych - a steddfodau Sir Ddinbych yn gyffredinol - yr oedd prifwyl 2001 yn un hanesyddol am resymau ar wahân i'r clwy'.

Ac ar y pedwerydd ymweliad â'r dref eleni, mae'r trefnwyr yn siŵr o fod yn gobeithio y bydd Prifwyl 2013 yn driw i'r traddodiad hwnnw o greu hanes.

Dim teilyngdod

Image caption Doedd dim teilyngdod yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Dinbych yn 1939

Ond mi fyddan nhw'n gobeithio'n fawr hefyd na fydd yr hyn a ddigwyddodd yn 1882 a 1939 yn digwydd eto.

Yn 1882 doedd neb yn deilwng o'r Gadair a go brin fod y gerdd a enillodd y Goron i Dafydd Rees Williams yn un sydd ar flaen tafod fawr neb erbyn heddiw!

Doedd neb yn deilwng o'r Gadair na'r Goron yn 1939 - er bod pryddest ddigon enwog wedi ei hanfon i mewn am y Goron.

Ond y beirniaid, J Lloyd Jones, E Prosser Rhys a T H Parry-Williams, yn atal y wobr am fod pryddest Terfysgoedd y Ddaear Caradog Prichard - cerdd rymus ar hunanladdiad - yn "anhestunol".

Penderfyniad eironig o safbwynt Parry-Williams, gan i Eifion Wyn yn 1915 wrthod rhoi'r Goron iddo ef gan gondemnio ei bryddest Y Ddinas o fod yn anfoesol ac o ogoneddu - ie, hunanleiddiaid.

Ond er na wobrwywyd Terfysgoedd y Ddaear fe gyhoeddwyd y bryddest yn llyfryn llipa wedi'r Eisteddfod ac mae copi i'w weld yn llyfrgell y dref yn Ninbych.

Cadeirio merch

Ond os oeddech am fod yn dyst i hanes yn cael ei greu go iawn mewn Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Gwener Eisteddfod 2001 yn Ninbych oedd y lle i fod pryd y camodd y ferch gyntaf erioed o dywyllwch y pafiliwn i lygad goleuni'r llwyfan, ac i Gadair y Genedlaethol.

Image caption Camodd Mererid Hopwood i lyfrau hanes wrth ennill y Gadair yn 2001

A hithau ond wedi bod yn cynganeddu ers chwe blynedd, daeth camp Mererid Hopwood yn destun mwy fyth o ryfeddod ac edmygedd:

"Yr oedd yn hen bryd i ferch ennill y Gadair gan fod rhai yn honni fod cynganeddu y tu draw i ferched ond dydi hynny ddim yn wir," medda hi wedi'r seremoni gan ychwanegu'n wylaidd, "ac os ydw i yn gallu gwneud, fe all unrhyw ferch".

Mewn ffordd, merch enillodd y Goron hefyd yr wythnos honno gan mai i 'Mair' y dyfarnwyd hi.

Ond pan alwyd yr enw a seinio'r Corn Gwlad, dyn a gododd ar ei draed, Penri Roberts, cofiadur presennol Gorsedd y Beirdd.

Bardd a chanddo yntau ei orchest hanesyddol fechan hefyd - o fod wedi canu fersiwn Gymraeg o gân waharddedig Chuck Berry yn y Saithdegau, My Ding-A-Ling, fel aelod o grŵp Y Gasgen!

Yn ystod yr un Eisteddfod bu digwyddiad hanesyddol arall o bwys yn hanes yr Orsedd.

Ethol Archdderwydd

Tra'r oedd y Frigâd Dân yng nghanol mwg du, trwchus, y tu allan i Babell y Cymdeithasau yn rhoi gwersi sut i ddiffodd tân sosban chips, oddi mewn i'r babell yr oedd aelodau'r Orsedd yn mynd i'r afael â phwnc llosg - dewis aelod nad oedd yn brifardd yn Archdderwydd newydd.

Image copyright Not Specified
Image caption Robyn Léwis, enillydd y Fedal Ryddiaith, oedd yr Archdderwydd cyntaf erioed i gael ei ddewis trwy bleidlais

Yr oedd yn benderfyniad hanesyddol ar ddau gyfrif, gan mai dyma'r tro cyntaf hefyd i Archdderwydd gael ei ddewis trwy bleidlais yr holl aelodau yn dilyn ymgyrch etholiadol frwd.

Hynny, yn hytrach na derbyn enw a ddewiswyd gan Fwrdd yr Orsedd.

Robyn Léwis, enillydd y Fedal Ryddiaith, yn sefyll yn erbyn Selwyn Griffiths a T. James Jones - a eisteddai gyda'i gilydd yn y rhes gefn - a enillodd yr etholiad hwnnw.

Fo oedd yr Archdderwydd cyntaf i'w ethol ar sail y ffaith ei fod yn brif lenor rhyddiaith yn unig, gan beri i un bardd gwyno, braidd yn annheg does bosib, bod "gynnon ni rŵan Archdderwydd nad yw yn gwybod y gwahaniaeth rhwng englyn a chywydd".

Ac os agorodd Eisteddfod 2001 gyda phryderon am glwy' traed a'r genau wele hi'n dirwyn i ben hefyd gyda chadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Eifion Lloyd Jones, yn rhoi ei droed ym mhen ôl 'ysgolion Cymraeg' trwy agor ei enau mewn anerchiad dadleuol yn galw am fod yn fwy dethol wrth dderbyn disgyblion:

"Er budd y Gymraeg a'i dysgwyr, mae'n bryd ystyried o ddifrif faint o ddysgwyr y gellir eu derbyn," meddai gan gyhuddo "llu mawr o rieni" o anfon eu plant i ysgolion Cymraeg heb fymryn o awydd Cymreigio'r plant hynny.

Felly, beth fydd gan Eisteddfod 2013 yn Ninbych i'w gynnig?

Yn barod, mae rhywfaint o hanes wedi ei greu hyd yn oed cyn agor y pyrth i geir glân a budr fel ei gilydd - merch yw'r Archdderwydd fydd yn arwain y seremonïau ar y llwyfan am y tro cyntaf erioed.

Ond a fydd yna ragor o hanes?

Yr oedd cysgod gwên ddireidus ar wyneb Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, wrth iddo atgoffa aelodau o'r Wasg yn ddiweddar o'r traddodiad o greu hanes eisteddfodol yn Sir Ddinbych.

Ac, wrth gwrs, beth bynnag fydd yn digwydd, bydd hon yn Brifwyl hanesyddol i Hywel ei hun gan mai dyma ei un olaf cyn ymddeol ddiwedd y flwyddyn.

A thybed a ydi o'n cofio rhywbeth arall am Ddinbych 2001? Yn ogystal â cheir budron, gwaharddwyd cŵn hefyd o'r maes...gan gynnwys Robbie, ei ddaeargi Cairn ef ei hun.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.