Byrddau iechyd: £17m ar gytundebau cymodi

  • 30 Gorffennaf 2013
Nyrs
Mae 162 o gytundebau cymodi wedi eu harwyddo ers 2010

Fe wnaeth byrddau iechyd yng Nghymru wario dros £17 miliwn mewn cyfnod o bedair blynedd ar gytundebau sy'n rhwystro cyn aelodau staff rhag datgelu manylion am eu gwaith.

Yn ôl gwaith ymchwil gan BBC Cymru, ers 2009 fe gafodd 162 o gytundebau cymodi eu harwyddo.

Yn ôl canllawiau'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru dim ond ar achlysuron prin y dylid defnyddio cytundebu o'r fath.

Yn aml mae'r cytundebau yn cael eu defnyddio pan mae cyflogwr am ddiweddu cytundeb aelod o staff.

Mae cytundebau cymodi hefyd yn gallu cael eu defnyddio pe bai awdurdod yn ail strwythuro, neu pan mae aelod o staff wedi gwneud cwyn, er enghraifft honiad eu bod wedi cael cam yn y gweithle.

Mae'r sawl sy'n arwyddo cytundebau cymodi yn colli'r hawl i geisio iawndal yn y llysoedd.

Er bod y cytundebau yn rhwystro aelodau staff rhag trafod manylion eu hen swyddi, nid yw'r cytundebau yn eu rhwystro rhag mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion.

313

Cafodd dros hanner y cytundebau-313 - eu llunio gan fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar gost o dros £9 miliwn.

Dim ond un cytundeb o'r fath oedd yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda.

Yn Lloegr mae'n rhaid i'r sawl sy'n darparu gwasanaethau iechyd gael caniatâd y Trysorlys a'r Adran Iechyd yn San Steffan cyn arwyddo cytundebau cymodi.

Yng Nghymru y byrddau iechyd unigol sydd a'r cyfrifoldeb am ddefnyddio cytundebau cymodi.

Mewn llythyr gafodd ei anfon i brif weithredwyr y byrddau iechyd yng Nghymru yn 2003, dywedodd Ann Lloyd, cyn gyfarwyddwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, "ni ddylai cytundebau gadael swydd gynnwys cymalau cyfrinachedd."

Mae'r llythyr hefyd yn dweud: "Ar achlysuron prin pan ei bod yn bosib y bydd yn rhaid i'r sefydliad ystyried y defnydd o gymalau cyfrinachedd, dylid ystyried y mater yn un cynhennus gan ymgynghori gyda'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. "

Gadael

Fis diwethaf fe wnaeth dau o uwch reolwyr Betsi Cadwaladr roi'r gorau yw swyddi.

Fe wnaeth y prif weithredwr a'r cadeirydd adael ar ôl i adroddiad beirniadol gael ei gyhoeddi o'r modd yr oedd y bwrdd yn cael ei redeg.

Dywed yr adroddiad fod yna oedi wedi bod wrth gynnal llawdriniaethau er mwyn ceisio atal problemau ariannol y bwrdd rhag cynyddu.

Roedd y bwrdd wedi rhagweld dyled o £3.9 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Yn ôl gwaith ymchwil y BBC fe wnaeth y bwrdd wario £9,073,165 ar gytundebau cymodi ers 2009.

Gwastraff arian

Dywed Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod angen i Lywodraeth Cymru edrych ar y canllawiau presennol:

"Mae angen iddynt ystyried a yw cyfarwyddiadau cyn gyfarwyddwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael eu dilyn.

"Mae angen llunio canllawiau newydd i gyfyngu ar nifer y cytundebau yma, a hefyd mae angen sicrhau fod byrddau iechyd yn nodi yn gywir nifer y cytundebau.

"Ni ddylwn fod yn gwario arian y trethdalwyr ar y cytundebau pan rydym yn ymwybodol o'r pwysau ar adnoddau.

"Dylid gwario arian ar benodi nyrsys a meddygon yn hytrach na'r cytundebau hyn.

"Mae Hywel Dda a Caerdydd yn llwyddo i wneud hyn felly pam ddim gweddill y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru?"

Adrefnu

Dywedodd Tina Donnelly, cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru, ei bod o'r farn fod y gwariant ar gytundebau o'r fath o ganlyniad i ailstrwythuro'r gwasanaeth iechyd:

"Yn y 10 i 15 blynedd diwethaf, bob rhyw ddwy neu dair blynedd mae yna adrefnu," meddai.

Dywedodd er mwyn osgoi cytundebau costus fod angen cyfnod o sefydlogrwydd ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Rhatach

Ward ysbyty
Dywed Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd bod nifer o'r cytundebau yn cael eu rhoi i bobl sydd eisiau gadael eu swyddi yn gynnar

Yn ôl Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mae nifer o'r cytundebau wedi eu gwneud am fod gweithwyr eisiau gadael eu swyddi o'u gwirfodd yn gynnar.

Meddair llefarydd bod hyn yn rhatach na dewisiadau eraill:

"O fewn cytundeb o'r fath mae yna gymal sydd yn atal gweithwyr rhag dychwelyd i weithio gyda GIG yng Nghymru am gyfnod penodol o amser.

"Dydyn nhw chwaith ddim yn medru hawlio budd-dal y gallan nhw fod wedi cael pe bydden nhw wedi aros yn y gwaith.

"Pwrpas cytundeb o'r fath yw i warchod y staff sydd yn weddill ac osgoi cam ddefnydd o arian cyhoeddus."

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gan y byrddau iechyd ganllawiau clir i'w dilyn.

"Mae bob cais o dan y drefn yn gorfod cydymffurfio gydag egwyddorion caeth ac mae'n rhaid eu bod wedi eu cymeradwyo gan eu cyflogwyr.

"Tra bod y byrddau iechyd yn parhau i wneud newidiadau, fe fydden ni yn disgwyl i nifer y cytundebau lle mae pobl yn dewis gadael eu swyddi yn gynnar i godi ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffigyrau."