Aled Sion Davies
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Aled Siôn Davies: 'Fel breuddwyd'

30 Gorffennaf 2013 Diweddarwyd 10:30 BST

Iwan Griffiths fu'n holi Aled Siôn Davies, a gafodd y Medal Aur am daflu'r ddisgen ac Efydd am daflu pwysau yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain y llynedd.

Yr wythnos ddiwethaf, fe enillodd ddwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Athletau Paralympaidd y byd yn Lyon.

Enillodd y dyn 22 oed o Ben-y-bont ar ogwr gystadleuaeth y ddisgen yng nghategori F42, gan lwyddo i daflu record rhanbarthol o 47.62 metr i sicrhau teitl pencampwr y byd, a medal aur yng nghystadleuaeth y taflu pwysau.