Iechyd: Effaith prinder ariannol

Nyrs
Mae adolygiad ar y gweill i lefelau cyllideb y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae uwch weision sifil Cymru wedi cyhoeddi rhybudd difrifol am effaith prinder ariannol sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd.

Ers blynyddoedd bellach mae'r byrddau iechyd wedi bod yn derbyn yr un faint o arian â'r flwyddyn flaenorol, sy'n golygu eu bod nhw'n gorfod darganfod ffyrdd i dalu am gostau chwyddiant eu hunain.

Yn ôl yr uwch weision sifil, mae hyn yn golygu bod darparu'r gwasanaethau presennol yn "eithriadol o anodd".

Mae'r sylwadau, gan aelodau bwrdd uwch-reolwyr Llywodraeth Cymru, yn ail gynnau'r ffrae wleidyddol hir ynghylch a yw gweinidogion Llafur yn cyllido'r gwasanaeth iechyd yn annigonol, fel y mae'r Ceidwadwyr Cymreig - a'r Prif Weinidog David Cameron - wedi hawlio.

'Anghenion newydd'

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gyhoeddi adolygiad i lefelau cyllideb y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae'n cael ei gynnal yn ystod yr haf gan Mr Drakeford a'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt.

Dywedodd Mr Drakeford ddydd Mawrth: "Rydym am sicrhau bod gan y GIG yr arian i gwrdd â'r anghenion newydd sy'n ei wynebu.

"Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau'r adolygiad yn gynnar yn yr hydref.

"Y stori go iawn am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yw ei fod yn mynd yn ei flaen, ddydd ar ôl dydd, yn darparu triniaethau ar gyfer pobl ledled Cymru oedd yn anodd dychmygu hyd yn oed bum neu ddeg mlynedd yn ôl".

Yng nghyfarfod mis Mawrth o fwrdd uwch-reolwyr Llywodraeth Cymru, dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Parhaol Derek Jones, rhybuddiodd yr aelodau y "byddai angen ystyried newidiadau sylweddol iawn" heb arian ychwanegol.

Mae'r bwrdd yn cynnwys cyfarwyddwr cyffredinol pob adran yn ogystal â nifer o gyfarwyddwyr anweithredol o'r tu allan i'r sefydliad. Maent yn cyfarfod yn fisol i drafod y prif faterion sy'n wynebu'r llywodraeth, fel arfer heb wleidyddion yn bresennol.

Yn ôl y cofnodion roedd cyfarwyddwr iechyd y llywodraeth, David Sissling, yn bresennol yng nghyfarfod mis Mawrth.

£404 miliwn

Mae'r GIG yng Nghymru yn amcangyfrif prinder ariannol o bron i £404 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol - o gymharu â £330 miliwn y llynedd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r saith bwrdd iechyd lleol yng Nghymru wedi derbyn cynnydd canran fach iawn yn eu cyllidebau - sy'n golygu bod rhaid iddynt ddygymod â chostau chwyddiant, gan gynnwys codiadau cyflog a mwy o alw gan gleifion, drwy wneud arbedion flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Er enghraifft, cyfanswm cyllideb y llywodraeth ar gyfer darpariaeth iechyd eleni yw £5.495bn, a rhagwelir mai cyllideb y flwyddyn nesaf fydd £5.489bn - gostyngiad o tua 0.09%. Y llynedd, roedd yn £5.492bn.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud y bydd costau chwyddiant a galw sy'n wynebu'r gwasanaeth yn fwy na 4% bob blwyddyn ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Maent hefyd yn rhybuddio bod GIG Cymru wedi wynebu setliadau ariannol anoddach na'i gymheiriaid mewn rhannau eraill o'r DU dros y blynyddoedd diwethaf.

'Newidiadau sylweddol'

Yn ôl y grynodeb o gofnodion cyfarfod bwrdd uwch-reolwyr Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth a gynhaliwyd yn eu pencadlys ym Mharc Cathays, "nododd y Bwrdd yr heriau sy'n wynebu'r GIG a'r camau lliniaru.

"Dywedodd yr aelodau y byddai cyflawni'r ystod bresennol o wasanaethau'r GIG yn eithriadol o anodd o fewn setliad ariannol fflat, ac yn absenoldeb adnoddau refeniw ychwanegol byddai angen ystyried newidiadau sylweddol."

Mae newidiadau i'r gwasanaeth iechyd wedi bod yn ddadleuol iawn yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda grwpiau protest yn egino ar draws y wlad i ymgyrchu yn erbyn ad-drefnu lleol.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar AC, "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi rhybuddio dro ar ôl tro am beryglon toriadau digynsail Llafur i'r GIG.

"Mae'r cyfarfod hwn, a'r adolygiad i lefelau cyllideb y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn brawf pellach y gallai'r neges fod yn cyrraedd, o'r diwedd, y llywodraeth Lafur ystyfnig".