Laudrup: edrych ymlaen at gêm 'arbennig'

Chico Flores Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae'n debyg na fydd Chico Flores yn chwarae oherwydd anaf i'w goes

Mae Michael Laudrup yn edrych ymlaen at gêm "arbennig" pan fydd Abertawe yn chwarae mewn cystadleuaeth Ewropeaidd am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd.

Mae'r Elyrch yn croesawu Malmö i Stadiwm Liberty nos Iau, yng nghymal cyntaf y drydedd rownd ragbrofol y gynghrair Ewropa - y tro cyntaf ers 1991 i Abertawe fod mewn pencampwriaeth yn Ewrop.

Llwyddodd y clwb i gyrraedd y gystadleuaeth drwy ennill y Cwpan Capital One y tymor diwethaf, ac mae'r rheolwr yn edrych ymlaen at yr her.

"Wrth gwrs mae'n arbennig. Mae'n gyfle fel chwaraewr neu hyfforddwr i wynebu timau newydd nad ydyn ni wedi arfer eu chwarae."

Her

Bydd Malmo yn sicr o roi her i Abertawe nos Iau, wedi buddugoliaeth o 9-0 ar gyfanswm goliau yn erbyn Hibernian yr wythnos ddiwethaf.

Mae gan y clwb o Sweden hefyd y fantais o fod ar ganol tymor y gynghrair Allsvenskan.

Mae Malmo yn ail yn y gynghrair wedi 17 o gemau, tra bod Abertawe yn paratoi at ddechrau tymor newydd yn yr Uwch Gynghrair.

Er hynny, mae Laudrup yn ffyddiog bod digon o chwaraewyr o safon yn ei dîm i ymdopi.

"Maen nhw'n dîm da, ond mae'n anodd eu cymharu nhw gyda ni," meddai.

"Dydy'r Allsvenskan ddim o'r un safon a'r Uwch Gynghrair, ond maen nhw wedi chwarae 17 o gemau, a chwpl o gemau Ewropeaidd, lle rydyn ni ond ar ddechrau'r tymor.

"Tasai'r gêm yn cael ei chwarae mewn tri mis, ni fyddai'r ffefrynnau."

Chwaraewyr newydd

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gall Jordi Amat chwarae am y tro cyntaf ers ymuno âg Abertawe dros yr haf

Mae'n debyg y bydd rhaid i Laudrup ac Abertawe wneud heb yr amddiffynnwr Chico Flores, sy'n dioddef o anaf, ond gall Jordi Amat chwarae ei gêm gyntaf i'r Elyrch yn ei le.

Mae'r Sbaenwr wedi disgrifio'r gêm fel y "mwyaf yn ei yrfa hyd yn hyn."

Gall Wilfried Bony hefyd chwarae yn ei gêm gystadleuol gyntaf nos Iau.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Sweden, ac mae Michael Laudrup yn awyddus i beidio â rhoi mantais gôl oddi cartref i'r ymwelwyr.

"Rydym ni eisiau ennill, ond mae'n bwysig peidio gadael goliau i mewn, gan fod goliau oddi cartref mor bwysig yn y gystadleuaeth yma."

Bydd Abertawe yn chwarae Malmö yn Stadiwm Liberty nos Iau am 7.45yh, mae sylwebaeth fyw ar BBC Radio Cymru a bydd posibl gwrando arno ar y wefan hon.

Straeon perthnasol