Pobl Môn yn pledleisio mewn isetholiad

Ynys Môn
Image caption Mae disgwyl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi fore Gwener

Ddydd Iau mae dinasyddion Môn yn penderfynu pwy fydd eu haelod cynulliad nesaf.

Mae'r gorsafoedd pleidleisio'n agored rhwng 7am a 10pm, ac mae disgwyl y canlyniad yn ystod oriau man bore Gwener.

Chwech sy'n ymgeisio am y sedd yn yr isetholiad, a gafodd ei alw yn dilyn penderfyniad Ieuan Wyn Jones i ildio'r awenau er mwyn rhedeg Parc Gwyddoniaeth Menai.

Hwn yw'r isetholiad cynulliad cyntaf i gael ei gynnal ers un Blaenau Gwent yn 2006.