Cyhoeddi enwebiadau Bafta Cymru

Bafta
Image caption Y seremoni ym mis Medi fydd yr 22ain i gael ei chynnal

Mae Alys a Newyddion ymysg yr enwebiadau ar gyfer gwobrau Bafta Cymru'r flwyddyn hon.

Bydd enillwyr y gwobrau, sy'n cael eu rhoi am ragoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu mewn ffilm a theledu yng Nghymru, yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni wobrwyo ar 29 Medi.

Yr enw mwyaf adnabyddus ar y rhestr yw Michael Sheen, sydd wedi derbyn enwebiad am ei berfformiad yn y ffilm am Bort Talbot -The Gospel of Us.

Y rhaglen sydd wedi derbyn y mwyaf o enwebiadau yw Stella. Mae gan y ddrama am fywyd mewn cymuned ddychmygol yn ardal y Rhondda siawns o ennill 10 gwobr.

Stella

Mae Ruth Jones wedi cael ei enwebu am wobrau'r Awdur Gorau ac Actores Orau am ei gwaith gyda Stella, sy'n cael ei gynhyrchu gan Tidy Productions.

Daeth Ms Jones, o Ben-y-bont ar Ogwr yn wreiddiol, i amlygrwydd am gyd-ysgrifennu ac actio yn y gyfres deledu boblogaidd Gavin and Stacey.

Bydd Stella'n cystadlu yn erbyn Sherlock a The Indian Doctor am y wobr ar gyfer y ddrama deledu orau.

Image caption Cafodd Michael Sheen ei fagu yng Nghasnewydd

Mae The Indian Doctor, sy'n cael ei gynhyrchu gan Rondo Media ar gyfer rhwydwaith y BBC, wedi derbyn pedwar enwebiad arall - cyfres ydy hi am deulu o India sy'n symud i Drefelin ar ddechrau'r 60au.

Y ddau fydd yn cystadlu yn erbyn Michael Sheen am wobr yr actor gorau fydd Mark Lewis Jones am ei ran yn Stella a Rhodri Meilir o Gwlad yr Astra Gwyn.

Newyddion a chwaraeon

Mae dwy raglen gan y BBC ar y rhestr fer ar gyfer y darllediadau newyddion gorau sef Newyddion a Wales Today, gyda rhaglen ITV, Wales Tonight hefyd yn cael enwebiad.

Rhaglenni Cymraeg yw'r tair sydd wedi cael eu henwebu am wobr ar gyfer y rhaglen chwaraeon neu'r darllediad allanol byw gorau.

Y tair yw Sgorio, Y Clwb Rygbi rhyngwladol a Sioe 12 - rhaglen S4C o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

'Digwyddiad gwych'

Y gyflwynwraig Siân Lloyd fydd yn cyflwyno'r gwobrau ar y noson, ar y cyd gyda Matt Johnson:

"Rwy'n falch iawn o gael cyflwyno seremoni Wobrwyo BAFTA Cymru eleni ochr yn ochr â Matt," meddai Ms Lloyd.

"Mae bob amser yn ddigwyddiad gwych ac ar ôl gweithio yn y diwydiant cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt am nifer o flynyddoedd, rwyf yn ymwybodol iawn faint mae'r gydnabyddiaeth y mae'n darparu yn ei olygu i'r rhai sy'n gweithio yn y maes".

Y rhaglenni Cymraeg eraill sydd â chyfle i ennill gwobr yw Y Byd ar Bedwar, Llefydd Sanctaidd, Gerallt, Stwnsh Sadwrn, Dwylo'r Enfys, Can i Emrys, Bla Bla Blewog, Calon Cenedl, Fy Chwaer a Fi, Gerallt a Gwaith Cartref.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.