Yr Eisteddfod 'wastad wedi newid', medd Nic Parry

Nic Parry Image copyright Arall
Image caption Mae'r eisteddfod genedlaethol wedi newid ar hyd y blynyddoedd, meddai Nic Parry

Nid geiriau'r cyn weinidog dros y Gymraeg Leighton Andrews, bod angen 'moderneiddio'r' Eisteddfod, sydd wedi golygu bod yna newidiadau ar faes y Brifwyl eleni, meddai Llywydd yr ŵyl.

Yn ôl Nic Parry, mae'r Eisteddfod wedi datblygu ac yn datblygu yn barhaus.

Y llynedd fe aeth Llywodraeth Cymru ati i sefydlu tasglu i edrych ar y mater. Bydd y tasglu hwnnw yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mercher.

"Mae angen symud efo'r oes yn bendant. Ond gai ddweud hefyd dydy hyn ddim wedi digwydd achos bod Leighton Andrews wedi gofyn amdano fo.

"Mae'r eisteddfod wedi symud yn ei blaen, wedi newid ers blynyddoedd. Ac mae unrhyw awgrym bod y newidiadau yma wedi digwydd eleni achos bod y gweithlu yma ar waith, dydy hynny ddim yn wir.

"Mae'r bar yn enghraifft berffaith. 2004 oedd hynny. Oedd Leighton Andrews ddim o gwmpas bryd hynny," meddai'r darlledwr a'r barnwr Nic Parry.

Gwell nag erioed

Mae'r dyn sydd hefyd yn aelod o'r pwyllgor gwaith yn Eisteddfod Dinbych eleni yn cydnabod bod cael y cydbwysedd rhwng denu'r to ifanc a chadw'r eisteddfodwyr ffyddlon yn hapus yn her. Ond mae'n dweud bod y brifwyl rŵan ar ei gorau:

"Yn bersonol mae'r steddfod yn well lle rŵan na fuodd hi erioed. Mae 'na gerddoriaeth yma, mae 'na far yma.

"Hynny yw fel boi ifanc ei ysbryd, fel boi sydd efo dwy hogan sydd yn dal yn ifanc, maen nhw yn fwy awyddus na fuo nhw erioed i ddod i'r eisteddfod.

"Maen nhw yn teimlo bod 'na fwy o amrywiaeth o bethau yma ac mi fyswn i yn herio unrhyw un i ddweud bod 'na ddim."

Image caption Yn ôl Llywydd yr wŷl mae 'na fwy i bobl ifanc wneud nac erioed

Dydy o ddim yn credu y dylid newid y rheol Gymraeg gan gynnwys y syniad o adael i fandiau ganu yn Saesneg. Byddai hynny meddai yn 'gywilyddus':

"Pam fysa chi yn newid natur gŵyl? Dim eisteddfod genedlaethol fysa hi wedyn. Mae 'na ddigon o wyliau pop. Un eisteddfod genedlaethol sydd."

Dydy o chwaith ddim am ei gweld hi yn mynd dros y ffin. Mi ddylai pobl ddod i Gymru i brofi'r ŵyl, meddai.

Y ddwy eisteddfod

Nic Parry fu'n llywio gweithgor sydd wedi bod yn edrych ar ddyfodol eisteddfod yr Urdd. Wrth gymharu'r ddau ddigwyddiad Cymraeg mae'n dweud bod eu heriau yn wahanol: "Cryfder eisteddfod yr Urdd ydy ei phafiliwn hi a chryfder yr eisteddfod genedlaethol fyswn i yn awgrymu,...ydy'r hyn sydd yn digwydd o gwmpas y pafiliwn."

Er bod cwestiwn yn codi a ddylai'r ddwy eisteddfod gydweithio yn agosach dydy o ddim yn awyddus i weld hynny yn digwydd: "Os ydych chi yn dweud mai cryfder un eisteddfod ydy ei chystadlu hi a chryfder yr eisteddfod arall ydy'r hyn sydd o'i chwmpas hi, cyfunwch y ddau, mae gennoch chi chwip o ŵyl. Dw i'n derbyn y ddadl yna.

"Ond dw i'n meddwl ein bod ni yn ddigon hyderus i allu cynnal dwy ŵyl a'i bod yn werth o leiaf yr ymdrech i sicrhau bod hynny yn para."

Fysa fo chwaith ddim yn hoffi gweld y ddwy ŵyl yn rhannu dau neu dri safle parhaol. Mae angen i ardaloedd Cymru gael ei 'joch o Gymreictod' meddai.

Gadael ei ôl

Mae'n bendant bod y brifwyl wedi gadael gwaddol yn Ninbych pan oedd hi yno ddiwethaf yn 2001. Ers hynny mae cymdeithasau a gafodd eu sefydlu wedi para ac nid dim ond eisteddfodwyr pybyr ydy'r rhai sydd wedi bod yn ymwneud gyda nhw meddai.

Erbyn hyn mae'r pwyllgor gwaith wedi codi deugain mil yn fwy na'r targed ariannol gafodd ei rhoi dwy flynedd yn ôl.

Mae'n dweud bod yr ardal yn un 'naturiol Gymraeg' a bod y straen i godi'r arian yn llai mewn lle fel hyn nac mewn lleoliadau eraill:

"Oedd hi yn ddigon anodd i ni ac eto fuo ni erioed yn bryderus, erioed yn bryderus. Pan dach chi yn edrych wedyn ar ardaloedd lle dydy'r adnoddau ddim yna, dach chi yn gweld maint eu camp nhw."

Colli cyfle

Ddeuddeg mlynedd yn ôl fuodd y brifwyl yn ardal Dinbych ddiwethaf. Y teimlad yn lleol meddai yw y bydd y tro yma yn gyfle i ddangos yr hyn sydd gan y lle i gynnig: "Mae 'na deimlad ein bod ni i raddau wedi colli'r cyfle pan ddaeth hi yma ddiwethaf oherwydd clwy'r traed a'r genau.

"Mae 'na deimlad mai rhyw fath o gyfaddawd o steddfod oedd honno o reidrwydd ond er hynny, bod y fro, y dyffryn ddim wedi cael ei dangos ar ei gorau.

"Felly mae 'na ryw falchder a rhyddhad i raddau bod nhw yn cael y cyfle yma eto yn weddol fuan."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.