Tyfu Canabis ar strydoedd Casnewydd

Canabis Image copyright Richard Swingler
Image caption Roedd tua 20 o'r planhigion wedi bod yn tyfu ar strydoedd Casnewydd

Mae Cyngor Casnewydd yn ceisio darganfod sut y cafodd planhigion canabis eu tyfu mewn potiau a roddwyd gan y cyngor i addurno'r ddinas.

Cafodd tua 20 o'r planhigion eu tyfu ymysg blodau eraill, cyn i ddyn lleol sylwi ar y dail rhyfedd yn eu canol.

Cafodd yr heddlu eu galw i ymchwilio, ond roedd y planhigion wedi mynd erbyn i swyddogion gyrraedd.

Mae'r cyngor yn edrych ar luniau CCTV i geisio darganfod pwy sy'n gyfrifol.

Cafodd y planhigion eu darganfod gan ddyn busnes lleol, Dean Beddis.

Dywedodd: "Doeddwn i erioed wedi gweld canabis yn tyfu yn wyllt o'r blaen felly roedd hi'n rhyfedd iawn i'w weld."

"Mae'r planhigyn yn un prydferth iawn, ac roedd yn sefyll allan yn wych.

"Ond maen nhw wedi mynd erbyn hyn. Dydw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi eu cymryd."

Ymchwilio

Image caption Mae'r cynghorydd Rhys Hutchings yn tybio mai plant oedd wedi plannu'r planhigion

Roedd y planhigion wedi bod ar rai o strydoedd prysuraf Casnewydd, ac mewn potiau oedd yn cael eu dyfrhau gan y cyngor.

Dywedodd y cynghorydd Rhys Hutchings, oedd hefyd yn rhan o fand Goldie Lookin' Chain bod plant y ddinas ar fai.

"Unai plant neu cymuned danddaearol Casnewydd sydd ar fai, nid Alan Titchmarsh!" meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd eu bod wedi cysylltu â'r heddlu, ac yn bwriadu edrych ar luniau CCTV.

Dywedodd yr heddlu: "Nawr bod y planhigion wedi mynd bydd hi'n anodd darganfod os oedd y planhigion yn rhai anghyfreithlon neu beidio, ac os oedden nhw wedi eu plannu er mwyn cynaeafu."