Archdderwydd yn agor yr Orsedd gyda neges amserol

Yr Archdderwydd Christine James
Image caption Dywedodd yr Archdderwydd fod gan Gymry heddiw lawer i'w ddysgu gan bobl fel William Salesbury o ran "dadeni'r iaith"

Mae Gorsedd y Beirdd Eisteddfod Sir Ddinbych 2013 wedi ei hagor gyda galwad i "addasu ac ailgreu" er mwyn sicrhau "dadeni'r iaith Gymraeg".

Hon yw Eisteddfod gynta'r Archdderwydd, y Prifardd Christine James, y ferch gynta' a'r cynta' o deulu di-Gymraeg i fod yn Archdderwydd.

Oherwydd y glaw cafodd y seremoni fore Llun ei chynnal yn y Babell Lên yn hytrach nag wrth Gylch yr Orsedd.

Roedd nifer o aelodau newydd yn cael eu hurddo yn ystod y seremoni, gan gynnwys prif enillwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd.

Rôl amlwg

Yn ei hanerchiad cyfeiriodd yr Archdderwydd at rôl amlwg Dinbych a'r ardal yn hanes maes cyhoeddi a golygu yng Nghymru, gan gyfeirio yn benodol at unigolion fel Thomas Gee a Kate Roberts.

Cychwynnodd drwy leisio ei barn ar ddyfodol hen adeilad Gwasg Gee yn y dre'.

Mae 'na bryder yn lleol fod cyflwr yr adeilad wedi dirywio am ei fod wedi bod yn wag er blynyddoedd ac mae ymddiriedolaeth wedi bod yn ceisio achub y safle a'i droi'n amgueddfa i gofnodi hanes y diwydiant cyhoeddi yn yr ardal.

"Rwy'n pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod hen adeilad Gwasg Gee yn cael ei agor i'r genedl gyfan," meddai Christine James.

Cyfeiriodd hefyd at ddylanwad rhai fel William Salesbury - un o ysgolheigion mwya' Cymru yng nghyfnod y Dadeni Dysg, a fu'n gyfrifol, gyda Thomas Huet, am gyfieithiad cyntaf cyflawn y Testament Newydd i'r Gymraeg.

'Esiampl i Gymry ifanc'

Dywedodd yr Archdderwydd fod gennym lawer i ddysgu oddi wrth rywun fel Salesbury.

Yn gyntaf, meddai, roedd yn "esiampl i Gymry ifanc" y dyddiau hyn.

Er y "gallai'r ysgolhaig fod wedi cael gyrfa ddisglair iddo'i hun y tu hwnt i Gymru, daeth â'i ddysg yn ôl i Gymru," meddai.

Dywedodd y Prifardd Christine ei bod yn gobeithio y byddai Cymry ifanc sy'n mynd dros y ffin i gael eu haddysg a'u hyfforddiant heddiw yn "teimlo'r un angerdd, ac yn dod adre' i wasanaethu a chyfoethogi'n cenedl" yn yr un modd ag y gwnaeth Salesbury.

Cyfeiriodd hefyd at neges yr ysgolhaig - "mynnwch ddysg yn eich iaith" - a phwysleisiodd yr Archdderwydd fod gan y Gymraeg "yr adnoddau i drafod y pynciau mwya'". Ychwanegodd mai'r un yw'r cyfrifoldeb heddiw.

"Gwae ni pan beidia'r Gymraeg â bod yn gyfrwng addas i fynegi ein hunain," meddai.

Image caption Dewi Corn a Paul Corn Cynan yn Canu'r Corn Gwlad ar ddechrau'r seremoni fore Llun

'Technolegau newydd'

Dywedodd mai her arall oedd "manteisio ar dechnolegau newydd i hybu'r iaith". Cyfeiriodd at ymdrechion yr Eisteddfod Genedlaethol drwy ddyfeisiadau fel yr "ap" a'r wefan newydd.

"Mae'n briodol iawn mai yma yn Ninbych mae hyn yn digwydd," ychwanegodd.

Gorffennodd trwy sôn am yr iaith Gymraeg yn addasu.

"Cael ei haddasu mae iaith, cael ei hail-greu a'i dadeni gan ei siaradwyr. Dyna wir ystyr dadeni.

"Dyna'r her i Salesbury, a dyna'r her i ni yma yn Ninbych eleni," meddai.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.