'Angen gwneud mwy' dros yr iaith

Cabinet Carwyn
Image caption Y brif neges o'r Gynhadledd Fawr oedd bod angen i Carwyn Jones a'i gabinet wneud mwy dros y Gymraeg

Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu.

Dyna yw un o brif gasgliadau dau ymgynghoriad diweddar y llywodraeth, sef y Gynhadledd Fawr a Iaith Fyw: cyfle i ddweud eich dweud.

Er bod pobl yn teimlo bod angen i lywodraeth Carwyn Jones weithio'n galetach dros yr iaith, roedd llawer o bobl hefyd yn cydnabod bod y strategaeth lywodraethol yn dilyn y trywydd iawn ar y cyfan.

Dywedodd y prif weinidog ei fod yn cydnabod bod llawer o waith ar ôl i'w wneud.

Iaith Fyw

Iaith Fyw yw strategaeth Gymraeg y llywodraeth ar gyfer 2012-17, gafodd ei lansio yn dilyn ymgynghoriad gafodd ei gynnal yn 2010.

Penderfynodd Mr Jones sefydlu ymgynghoriad arall sef Y Gynhadledd Fawr yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2011, oedd yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng ers 2001 0 20.5% i 19%.

Mae'r llywodraeth yn parhau i ddadansoddi'r ymatebion, ond maen nhw'n dweud bod y neges ar yr olwg gyntaf yn glir.

Un o brif bryderon pobl wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau oedd nad oes digon o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ym mywyd bob dydd.

Y neges gan bobl oedd bod hynny'n gwbl hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol i'r iaith.

Wrth lansio ap newydd, sydd wedi ei gynllunio er mwyn cynyddu'r nifer o lyfrau Cymraeg digidol sydd ar gael, dywedodd Carwyn Jones:

"Roedd yn galonogol gweld cynifer o bobl yn cymryd rhan yn ein trafodaeth genedlaethol ar ddyfodol y Gymraeg, ac mae'n ddiddorol hefyd gweld y themâu sy'n deillio ohoni.

"Er ein bod yn dal i gasglu gwybodaeth o'r nifer helaeth o ymatebion a ddaeth i law, yr hyn sy'n glir yw cryfder teimladau pobl ynghylch yr iaith."

Technoleg

Un ffordd mae pobl yn awyddus o weld y Gymraeg yn datblygu yw drwy sicrhau bod modd ei defnyddio fel cyfrwng wrth ymwneud â thechnoleg newydd - rhywbeth roedd Mr Jones yn cytuno ag ef heddiw:

"Mae'r Eisteddfod yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru ac yn enghraifft ragorol o'r iaith yn cael ei defnyddio ac yn ffynnu. Dw i'n falch o gael y cyfle i weld sut mae'r Eisteddfod yn manteisio ar dechnoleg newydd a sut mae datblygiadau fel yr Ap Llyfrau Cymru yn rhoi mwy o gyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg," meddai.

"Mae llawer i'w wneud eto, ond dw i wedi ymrwymo i weithio i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu. Dim ond y cam cyntaf yn y broses hon oedd y Gynhadledd Fawr.

"Byddwn ni nawr yn mynd ati i ystyried yn ofalus yr adborth a gafwyd er mwyn sicrhau bod sylwadau'r cyfranwyr yn ein helpu i lunio ein polisïau a'n gweledigaeth ar gyfer yr iaith yn y dyfodol."

Bydd canlyniadau llawn yr ymgynghoriadau yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.