Tasglu yn trafod dyfodol y Brifwyl

Caffi Maes B
Image caption Ymhlith rhai o'r newidiadau eleni mae Caffi Maes B, rhan o ymdrech yr Eisteddfod i apelio mwy i'r ifanc

Sut i foderneiddio'r Eisteddfod - dyna'r pwnc sydd yn cael sylw mewn sesiwn holi ac ateb gyda'r Tasglu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar yr union gwestiwn.

Cafodd y drafodaeth ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod brynhawn dydd Mercher.

Fis Hydref y llynedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am sefydlu Grŵp Gorchwyl i ystyried sut y gellid moderneiddio'r Brifwyl.

Cyhoeddodd Leighton Andrews - y gweinidog oedd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg ar y pryd - adeg Eisteddfod Bro Morgannwg y llynedd y gallai'r Eisteddfod gael rhagor o arian petai nhw'n cyflwyno newidiadau.

Awgrymodd y byddai'n hoffi i'r Brifwyl wneud mwy i ddenu pobl ddi-Gymraeg ac i gynnig profiad gwell i ymwelwyr.

Cylch gorchwyl

Dywedodd y byddai'r tasglu yn edrych ar nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • Manteision ac anfanteision cael Eisteddfod symudol neu gael un safle parhaol
  • Y model presennol o gael Pwyllgor Gwaith a Llys i drefnu'r wythnos
  • Y drefn gystadlu
  • Sut i wella'r profiad i ymwelwyr
  • Sut i hyrwyddo'r Brifwyl yn well ar blatfform digidol a chyfryngol, ac apelio at gynulleidfaoedd newydd
  • Materion cyllid

Mae disgwyl i'r grŵp, dan gadeiryddiaeth Roy Noble, adrodd yn ôl i'r llywodraeth ym mis Medi.

Mae'r Eisteddfod eisoes wedi cyflwyno nifer o newidiadau i'w harlwy, gan gynnwys datblygu eu gwefan a'r ap Eisteddfod.

'Rhoi eu dwylo yn eu pocedi'

Meddai'r Trefnydd, Hywel Wyn Edwards: "Dydw i ddim yn hapus hefo'r syniad o 'foderneiddio'. Rydyn ni yn moderneiddio o fewn y terfynau ariannol.

"Mae 'na ddatblygiad enfawr eleni, ac rydyn ni wedi gwneud hynny heb y llywodraeth. Ar ôl pob Eisteddfod, rydyn ni'n treulio misoedd yn paratoi adroddiad.

"Rydyn ni'n cael llai na hanner miliwn o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru - faint mae gwyliau eraill yn cael? Mae'n amser iddyn nhw roi eu dwylo yn eu pocedi."

Yn ôl y Prif Weithredwr, Elfed Roberts: "Dan ni wedi cael nifer o gyfarfodydd hefo'r tasglu ac wedi cynnig tystiolaeth iddyn nhw ar ddau achlysur. Dwi'n edrych 'mlaen rwan at weld yr adroddiad.

"Wrth gyflwyno'r newidiadau, 'da ni eisiau profi bod yr Eisteddfod yn gallu datblygu. Mae'n ŵyl bwysig sy'n haeddu adnoddau."

Carwyn Jones

Wrth ymweld â'r Maes ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn erbyn y syniad o gael Eisteddfod un safle. Mr Jones sydd bellach â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg ac iddo ef y bydd y tasglu yn cyflwyno eu hadroddiad yn yr hydref.

Dywedodd ei fod yn credu mai cynnal yr ŵyl mewn ardaloedd gwahanol o Gymru bob blwyddyn yw'r trefniant gorau.

Meddai: "Mae'r Eisteddfod yn mynd rownd Cymru fel rhyw fath o showcase i'r Gymraeg. Dydy o ddim cweit yn wir am y Sioe Frehinol achos ma' hwnnw'n ymwneud ag amaethyddiaeth.

"Felly hoffen ni weld yr Eisteddfod yn teithio o gwmpas Cymru, ond wrth gwrs mae'n rhaid ystyried y sefyllfa ariannol o ran cynaliadwyedd gwneud hynny yn y dyfodol."

'Colli brwdfrydedd'

Yn ôl Hywel Wyn Edwards: "Mae'n rhaid i'r Eisteddfod barhau i deithio tan fydd hi'n dod i'r pen - diffyg arian neu ofynion iechyd a diogelwch fyddai'r unig beth i atal hynny.

"Petawn ni ar un safle parhaol, byddai pobl yn colli brwdfrydedd ar ôl 'chydig. Does dim modd cymharu'r Eisteddfod â'r Sioe Frenhinol - mae gan yr Eisteddfod rwydwaith hollol wahanol.

"Mae 'na gymaint o fuddiannau i'r ardaloedd mae hi'n ymweld â nhw hefyd, wrth gwrs. Yn ardal Sir Ddinbych, er enghraifft, mae 'na tua 350 o weithgareddau wedi'u cynnal. Mae effaith hynny ar y diwylliant a'r iaith Gymraeg yn amhrisiadwy. Mae'r un fath yn Sir Gaerfyrddin - maen nhw wedi dechrau codi arian yn y fan honno'n barod."

Cyn y cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd Roy Noble, cadeirydd y tasglu: "Mae'n naturiol i drafod y cwestiwn sy'n dod lan bron pob blwyddyn, a ddyle hi fod mewn un lle, a ry' ni wedi bod yn ystyried hwnna hefyd a mewn ffordd gallwn ni ddim â ennill, gallwn ni, fel grwp."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.