Brighton 1-3 Casnewydd

Casnewydd yn dathlu'r fuddugoliaeth Image copyright Getty Images
Image caption Casnewydd yn dathlu'r fuddugoliaeth

Cafwyd buddugoliaeth annisgwyl a chofiadwy i Gasnewydd nos Fawrth wrth faeddu Brighton o'r Bencampwriaeth o dair gôl i un, wedi amser ychwanegol yn rownd gyntaf Cwpan Capital One.

Ond roedd ergyd i'r Alltudion wrth i'w capten Byron Anthony gael ei gario oddi ar y cae wedi torri'i goes mewn dau le yn dilyn tacl arno.

Aeth Brighton ar y blaen gydag ergyd Ashley Barnes wedi 17 munud, ond cafwyd trobwynt pan anfonwyd Inigo Calderon bant o'r cae wedi 67 munud wedi tacl flêr ar Byron Anthony.

Yr eilydd Danny Crow sgoriodd y gôl a orfododd amser ychwanegol.

Ef ychwanegodd yr ail cyn i Conor Washington selio'r fuddugoliaeth.

Dywedodd y rheolwr Justin Edinburgh: "Roedd yn berfformiad gwych a buddugoliaeth wych.

"Ond ry' ni gyd yn siomedig iawn ynghylch anaf Byron".

Cafodd Casnewydd ddechrau da i'r tymor yn yr Ail Gynghrair ddydd Sadwrn gyda buddugoliaeth o 4-1 dros Accrington Stanley.

Yn eu gêm gyntaf yn y Gynghrair mewn 25 o flynyddoedd, fe wnaeth Casnewydd ennill diolch i goliau gan Harry Worley, Christian Jolley a Chris Zebroski.

Straeon perthnasol