Fflach, bang a gwyddoniaeth

Robyn gyda'i ddau gynorthwydd, Geraint Roberts, Waunfawr a Dyfan Williams, Y Bontnewydd.
Image caption Robyn gyda'i ddau gynorthwydd, Geraint Roberts, Waunfawr, a Dyfan Williams, Y Bontnewydd.

Fe fûm i ym mherfeddion Eisteddfod Genedlaethol Dinbych heddiw - a chael gweld sut mae Cymru'n edrych o 21 milltir o uchder yn yr awyr hefyd.

Wel, nid cweit. Ond mi gefais i gerdded rhwng polypau canser yn ffurfio mewn model y gellir cerdded i mewn iddo o'r coluddyn dynol yn un o'r nifer o arddangosfeydd sydd yn y Babell Wyddoniaeth ar faes yr Eisteddfod.

Yr oedd hynny rhwng cael hanes hen setiau radio yn dyddio o'r dauddegau, gwneud prawf carbon monocsid a chael gweld y celloedd lle mae fy DNA fy hun - 1.7 metr ohono ym mhob cell a gasglwyd.

Mi allwn i hefyd fod wedi ceisio dyfalu faint o flociau lego sydd yna mewn model anhygoel o lori cymysgu sment - neu hyd yn oed gychwyn ar fy model fy hun.

Ac oddi allan ar ymweliad arbennig yr oedd Gareth Ffowc Roberts o @GarethFfowc yn achosi crafu pen gyda rhai o'i bosau Trydar dyddiol ar #symPOSiwm.

A phe byddai gen i amser yr oedd cyfle hefyd i gleinio crochenwaith wedi ei wneud yn lleol gan adael y darn mewn odyn tra'n crwydro'r maes.

'Crochan o ddyfeisgarwch'

Ydi, mae'r neuadd Wyddoniaeth - dydi pabell ddim yn air digon da rywsut ar y fath grochan o ddyfeisgarwch - yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn fwrlwm o weithgarwch a rhyfeddod.

Yn gymysgedd fawr o'r drefn ac anhrefn honno a gysylltid â dyddiau'r "hen ysgol yn y wlad".

Ac wrth i'r ddydd fynd rhagddo mae'r sŵn a'r diwydrwydd yn cynyddu wrth i chwilfrydedd a rhyfeddod hogi ei gilydd.

Mae'r cyfan dan ofal Swyddog Gwyddoniaeth yr Eisteddfod, y Dr Robyn Wheldon-Williams, sydd wedi dod a'r gybolfa fwyaf rhyfeddol o arddangosfeydd gwyddonol at ei gilydd er difyrrwch i blant a syndod i oedolion.

Ef sydd wedi wynebu'r her o wneud y babell hon yn un o rai mwyaf diddorol yr Eisteddfod Genedlaethol dros y saith mlynedd diwethaf gyda digwyddiad o gystadlaethau, darlithoedd, gweithgareddau ac arbrofion gwyddonol.

Swydd un diwrnod yr wythnos yw hi iddo yn cael ei rhannu a'i waith ym Mhrifysgol Bangor.

'Rhy swil'

Rhan o arddangosfa ar ganser ydi'r coluddyn y gall ymwelwyr â'r babell gerdded i mewn iddo a gweld sut y mae polypau niweidiol yn ffurfio:

"Mae lot o bobol yn rhy swil i fynd at y doctor i sôn am y math yma o ganser felly ryda ni'n trio chwalu'r myth yna a'i wneud yn rhywbeth naturiol i bobl siarad amdano fo ac yn y diwedd achub bywydau," meddai.

Image caption Ogof y coluddyn

"Dyna'r neges fwyaf difrifol sydd gennym ni ac mae gennym ni bartneriaeth â Betsi Cadwaladr a mudiadau gwahanol sydd yn ymdrin â chanser," ychwanegodd.

Ond y mae pethau eraill 'ysgafnach' a mwy hwyliog yn y neuadd gyda llawer o'r gweithgarwch wedi ei anelu at blant.

Yn eu plith, mae cystadleuaeth ddyddiol i greu stadiwm y gellir agor ei do ac mewn cydweithrediad a chwmni trelars lleol Ifor Williams mae her i greu rhaglen gyfrifiadurol i gael robotiaid Lego i facio trelar bach:

"Mae hwn yn ymarferiad pwysig i gael plant i arfer rhaglennu cyfrifiadurol yn hytrach na dim ond gallu eu defnyddio," meddai Robyn.

"Y nod ydi hyrwyddo gwyddoniaeth i blant a gwneud hynny mewn ffordd sy'n ddiddorol ac mewn ffordd sy'n golygu bod y plant yn defnyddio eu dwylo ac yn gwneud pethau ymarferol," meddai.

"Maen nhw'n gallu gweld cell goch dan feicrosgôp ac mae casglu eu DNA eu hunain a gweld eu celloedd dan feicrosgôp yn boblogaidd iawn," meddai Robyn.

Y mae ei sioe Fflach Bang ei hun yn un o uchelbwyntiau yr arddangosfa wyddonol ers deng mlynedd.

Daw'r holl elfennau, yn arbrofion, yn bosau ac yn y blaen at ei gilydd dan yr acronym STEM - Science, Technology, Engineering a Maths gyda'r bwriad o gael plant i ymddiddori mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ac i ystyried gyrfa yn y maes.

Dwynwen

Un o hynodion mwyaf annisgwyl yr arddangosfa ydi Dwynwen, draig goch dair modfedd a gafodd y profiad anhygoel o esgyn ynghlwm wrth falwn heliwm 21 milltir i'r entrychion gyda chamera yn tynnu lluniau o'r ddaear oddi tani.

Image caption Robyn gyda Dwynwen y Ddraig

Cwblhawyd yr arbrawf hwn cyn yr Eisteddfod mewn cydweithrediad ag Ysgol Brynhyfryd Rhuthun gyda Robyn yn casglu'r ddraig fechan pan syrthiodd yn ôl i'r ddaear ger Amwythig a'i chael hi'n ddiogel i faes y Brifwyl.

Mae hi, a lluniau o'i thaith ryfeddol, ger mynedfa'r arddangosfa.

Cam reit drawiadol i'r gorffennol, ym mhen arall y neuadd wyddoniaeth, yw arddangosfa o hen setiau radio o amgueddfa radio Gwefr Heb wifrau Dinbych lle mae setiau radio yn dyddio o ddau a thri degau'r ganrif ddiwethaf a gwybodaeth am gysylltiad nodedig Cymru â radio, fel y ffaith mai dyn o'r Bala oedd un o'r rhai cyntaf i anfon a derbyn tonfeddi radio a bod coleg radio ar un adeg ym Mae Colwyn.

Y cyfan mewn pabell lle mae ddoe hiraethus a heddiw ac yfory cyffrous yn dod at ei gilydd mewn ysbryd o rialtwch a hwyl.