Gweithiau celf yn torri rheol iaith?

'Lili'r Maes', Josephine Sowden
Image caption Mae fideo Josephine Sowden yn cynnwys iaith Aborijini a Chymraeg

Mae 'na drafodaeth wedi codi ar Faes yr Eisteddfod wedi i rai gweithiau yn y Lle Celf godi gwrychyn rhai Eisteddfodwyr.

Mae ambell un o'r gweithiau yn cynnwys Saesneg - gan gynnwys y fideo a sicrhaodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain a £5,000 i Josephine Sowden. Mae darn arall yn cynnwys Sbaeneg.

Mae rhai wedi cwestiynu a yw hyn yn torri rheol iaith y Brifwyl.

Yn ôl mudiad Dyfodol i'r Iath, mae'n gosod "cynsail peryglus".

Dywedodd Bethan Jones Parry llywydd y mudiad:

"Mae'n gynsail peryglus. Mae'r rheol Gymraeg yn bodoli yn yr Eisteddfod i amddiffyn a datblygu'r iaith.

"Dim ond yn yr Eisteddfod y mae modd i mi dreulio wythnos gyfan yn byw fy mywyd yn gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhaid i ni amddiffyn hynny."

'Codi cwestiwn'

Wrth siarad ar raglen Tocyn Wythnos ar BBC Radio Cymru, dywedodd y newyddiadurwr a'r bardd, Karen Owen:

Image caption Mae crochenwaith Carys Davies yn cynnwys cyfieithiad Saesneg o awdl Gymraeg

"Mae 'na bwynt wedi codi ynglŷn ag iaith, y rheol iaith Gymraeg, o ran y gweithiau celf. Pedwar o weithiau yn benodol - un ohonyn nhw ydy'r un enillodd wobr y Fedal Aur i Josephine Sowden...Os mai delio efo paent neu grochenwaith ydach chi, fel arfer does gennoch chi ddim iaith, dim cyfrwng, ac mae pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg yn gallu cyfrannu.

"Ond mae 'na bedwar o weithiau sydd wedi codi cwestiwn ynglŷn â defnyddio Saesneg, ac mae 'na Sbaeneg yng ngwaith Iwan Bala.

"Be' sydd ganddo fo ydy cerdd o waith bardd Sbaeneg sydd wedi ei chyfieithu i Saesneg gan Richard Gwyn, y bardd o Gaerdydd, ac wedyn ei chyfieithu i'r Gymraeg gan Twm Morus.

"Gofyn cwestiwn ydw i. Mae'r gwaith sydd wedi ennill y Fedal Aur, dwi'n meddwl bod yna bwynt gwleidyddol yn cael ei wneud yn fanna...

'Flin iawn iawn'

"Wedyn mae yna grochenwaith yna sydd wedi defnyddio barddoniaeth Llyr Gwyn Lewis, yr awdl enillodd gadair yr Urdd iddo yn 2010.

Image caption Mae yna Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg yng ngwaith Iwan Bala

"Be' mae'r crochenydd wedi'i wneud ydy defnyddio rhannau o'i gerdd o a chyfieithiad Saesneg ohoni, wedyn ma' gynnoch chi'r ddwy iaith yn ymddangos ar y crochenwaith.

"Dwi'm yn gwybod. Weles i fwy nag un yna oedd yn flin iawn iawn efo hyn, a heb enwi enwau, roedd yna un prifardd yn eu plith nhw oedd yn flin iawn iawn...Os fasa chi'n 'sgwennu cerdd ac yn dweud, wel, dwi wedi 'sgwennu cerdd ddwyieithog, fel hyn doth hi, 'sa chi'm yn gallu rhoi hi fewn am y gadair neu'r goron oherwydd y rheol iaith.

"Wedyn, be' ydy iaith celf de?"

'Eiconig'

Mewn ymateb, dywedodd Robyn Tomos, Prif Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod ei fod yn "croesawu trafodaeth ar y mater".

"Dros y blynyddoedd, mae nifer o weithiau yn y Lle Celf wedi bod â Saesneg ynddyn nhw.

"Yn aml, mae'n cael ei ddefnyddio mewn ffordd eiconig - er enghraifft, mae 'na lun o dudalen flaen y Financial Times yn yr arddangosfa eleni. Ond dwi'n credu bod y pennawd a'r papur pinc yn rhywbeth eiconig fanno - mae'n golygu rhywbeth y tu hwnt i iaith.

"Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cydweithio gyda'r artistiaid i greu fersiynau Cymraeg os oes yna fideo neu rywbeth.

"O ran y crochenwaith, mae 'na Gymraeg a Saesneg ar hwnnw. Mae'n rhaid i mi ddweud, doeddwn i ddim yn ymwybodol o gyd-destun y farddoniaeth.

"Ond dwi'n croesawu'r drafodaeth - mae'n rhoi arweiniad i ni, achos mae pawb yn gweld iaith mewn ffordd wahanol yn dydyn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.