Heddlu arfog yn arestio dyn yng Nghaernarfon

Mae heddlu arfog wedi arestio dyn yng ngogledd Cymru wedi i ddyn gael ei saethu'n farw yn Sbaen yn 2010.

Cafodd Darren O'Flaherty o Lannau Mersi ei arestio yng Nghaernarfon nos Fawrth oherwydd ymgyrch Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Glannau Mersi.

Roedd yr heddlu eisiau siarad gyda'r dyn 39 oed yn sgil llofruddiaeth John O'Neill mewn priodas yn y Costa del Sol yn 2010.

Cafodd ei arestio am 7.15pm mewn bwyty Tsieiniaidd yn y dref.

Dywedodd y Prif Arolygydd Jeff Moses: "Mae'r arestio pwysig hwn o ganlyniad i gyd-weithio rhyngom ni a Heddlu Glannau Mersi.

"Oherwydd natur y troseddau a'r amgylchiadau roedd hi'n angenrheidiol defnyddio swyddogion arfog."