Protest dros 'chwarae yn Gymraeg'

Protest Cymdeithas yr Iaith ar Faes yr Eisteddfod
Image caption Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod eu hymchwil yn dangos nad yw hi wastad yn bosib i blant ac oedolion wneud gweithgareddau hamdden drwy gyfwng y Gymraeg.

Mae protest wedi cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod i alw am ehangu darpariaeth hamdden drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd yn trefnu'r digwyddiad er mwyn pwysleisio eu cred y dylai pawb sy'n dymuno gwneud gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg gael gwneud hynny.

Maen nhw'n cwyno nad yw hynny wastad yn bosib a bod anghysondeb yn bodoli rhwng gwahanol ardaloedd, gyda rhai gweithgareddau Cymraeg i'w cael mewn rhai ardaloedd ond nid mewn rhai eraill.

Yn gynharach yn yr wythnos gwnaeth aelodau o'r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol arwyddo dogfen yn galw am hawliau clir i bobl fod yn rhan o'r safonau iaith.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn llunio safonau fydd yn diffinio dyletswydd sefydliadau i alluogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgwylir i'r safonau cyntaf, ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r parciau cenedlaethol i fod yn weithredol erbyn Tachwedd flwyddyn nesaf.

Anghysondeb

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dydy bron i hanner y cynghorau ddim yn darparu gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys rhai mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o blant yn dysgu'r iaith.

Cwyn arall yw'r anghysondeb sy'n bodoli o ran darpariaeth gyda'r gymdeithas yn nodi enghreifftiau o blant sy'n medru cael gwersi dawnsio Cymraeg ym Merthyr ond nid yn Aberystwyth.

Sian Howys yw llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac mae hi'n bendant fod angen rhoi'r cyfle i blant ddefnyddio'r Gymraeg wrth gael hwyl er mwyn sicrhau dyfodol yr iaith.

Dywedodd: "Mae Carwyn Jones yn mynd ymlaen ac ymlaen am y ffaith ei fod yn gweld dyfodol y Gymraeg yn nwylo plant a phobl ifanc. Mae'n honni bod rhyw resymau dirgel tu ôl i ddiffyg defnydd yr iaith ymysg pobl ifanc.

"Wel, does dim amheuaeth bod y diffyg yna yn rhannol oherwydd eu bod yn gweld yr iaith fel rhywbeth i'r ysgol yn unig.

"Yn nwylo Carwyn Jones mae 'na gyfle euraidd i newid y sefyllfa trwy'r safonau iaith newydd gan osod yr hawl i weithgareddau hamdden yn Gymraeg yn y rheoliadau newydd.

"Galle fe ddatgan 'fory ei fod e am gynnwys yr hawl yna yn y safonau. Os yw e o ddifrif am y Gymraeg, dyle fe wneud hynny'n syth."

Gêm bêl-droed

Hefyd yn siarad yn ystod y digwyddiad ar y maes roedd Gerallt Lyall sy'n gweithio i Fenter Iaith Sir Ddinbych.

Siaradodd am y pwysigrwydd o "normaleiddio" y defnydd o'r iaith tu allan i'r ysgol a dywedodd bod angen "ehangu'r cyfloedd sydd ar gael."

Wedi i Mr Lyall siarad fe orymdeithiodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith i babell Llywodraeth Cymru, lle cafwyd 'gêm bel-droed' er mwyn tynnu sylw at y mater.

Ddydd Llun fe wnaeth yr Aelodau Cynulliad Keith Davies (Llafur), Elin Jones (Plaid Cymru) ac Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol) arwyddo dogfen yn galw am gynnwys hawliau clir i siaradwyr Cymraeg yn y safonau iaith.

Byddai hynny yn gosod dyletswydd ar gyrff a chwmnïau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - gan gynnwys gwasanaethau hamdden.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod plant yn cael cyfle i ddefnyddio Cymraeg yn eu bywydau bob dydd, yn cynnwys mewn gweithgareddau hamdden ac rydym yn annog pob mudiad i sicrhau bod y Gymraeg ar gael."

"Mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn barod yn y maes yma. Mae'r Urdd er enghraifft wedi rhoi cyfleoedd i blant wneud chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg am sawl blwyddyn, gyda'r £250,000 o gyllid gan Chwaraeon Cymru yn datblygu'r cyfleoedd yma ymhellach."

Mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd gweithgareddau hamdden yn cael eu hystyried fel rhan o ymgynghoriad ar safonau iaith.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.