Crogwr yn ysgogi dramodydd

Glesni Haf Jones
Image caption Mae'n anodd i ddramodwyr ifanc ddod o hyd i leoedd i ysgrifennu, meddai Glesni Haf Jones

Wrth edrych ar gymeriadau tywyll tra'n dilyn cwrs sgriptio y daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ddrama fuddugol yn Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau.

Roedd Glesni Haf Jones - merch 27 oed sy'n wreiddiol o'r Wyddgrug, ond yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn - ar gwrs 'Gair ar Led' gyda Sherman Cymru y llynedd:

"Un o'r pethau oeddan ni wedi gorfod wneud oedd cael cymeriad o hanes i ddod i'r gweithdy. O'n i wedi dewis Lady Jane Gray neu rhywun, ac roedd rhywun arall wedi dod ag Albert Pierrepoint, sef y crogwr ola' ym Mhrydain.

"O hynny, wnaethon ni ddechrau arbrofi gyda'r cymeriadau ac o hynny wedyn nes i fynd ar ôl y cymeriad tywyll, drwg yna, drwy Albert Pierrepoint. Y fo mae'n siŵr oedd ysgogiad y ddrama."

"Dydw i erioed wedi 'sgwennu drama hir o'r blaen. Dwi erioed wedi cystadlu yn yr Eisteddfod chwaith - dwi ddim yn meddwl 'mod i wedi cystadlu ers o'n i tua 15 oed yn yr Urdd.

"Dwi wrth fy modd yn 'sgwennu dramâu byrion ac o'n i'n meddwl, reit mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth am y peth felly. O'n i isho 'sgwennu drama hir...cadw at rhywbeth a'i orffen yn iawn.

"Nes i wirioneddol mwynhau 'sgwennu'r ddrama. Dwi wrth fy modd yn 'sgwennu beth bynnag. Ond o'n i'n mynd i'r gwaith ac yn meddwl, o ia, dwi isho ychwanegu hwnna i'r sgript. Roedd o'n brofiad eitha' hir ond o'n i wrth fy modd yn mynd ati."

'Anodd iawn'

Ydy hi wedi magu blas am ysgrifennu dramâu hirion felly?

"Yn sicr, 'swn i wrth fy modd. Dwi'n bendant eisiau 'sgwennu mwy rwan. Mae hwn wedi'n ysgogi i i 'sgwennu mwy."

Pa mor obeithiol yw hi y bydd y ddrama'n gweld golau dydd?

"Swn i wrth fy modd tase rhywun yn penderfynu ei hactio hi. Dwi'n meddwl bod hi'n anodd iawn fel dramodydd ifanc, dwi'n gweld o'n anodd iawn ffeindio'r llefydd 'na i 'sgwennu. Mae Sian Summers yn y Sherman wedi bod yn wych hefo fi, yn dweud c'mon 'sgwennu 'sgwennu.

"Ond dwi'n ffeindio hi'n anodd iawn ffeindio lle i fynd, lle ddylswn i 'sgwennu. Ella dyna pam dwi ddim 'di 'sgwennu cymaint."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.