Sgwrs Radio Cymru: 'Penderfyniadau anodd'

Betsan Powys a Garry Owen
Image caption Betsan Powys: "Mae yna negeseuon clir, ma' 'na hefyd negeseuon cymhleth a phenderfyniadau anodd i'w gwneud, achos y'ch chi'n gwybod o'r dechrau boch chi ddim yn mynd i blesio pawb."

Wrth drafod Sgwrs Radio Cymru, mae golygydd yr orsaf, Betsan Powys, wedi dweud bod yna 'benderfyniadau anodd i'w gwneud'.

Yn ystod y tri mis diwethaf mae'r Sgwrs wedi derbyn dros fil o gyfraniadau, a bu Ms Powys yn ateb cwestiynau gwrandawyr ar faes yr Eisteddfod ddydd Gwener mewn trafodaeth a ddarlledwyd ar Taro'r Post.

Dywedodd Ms Powys yn blwmp ac yn blaen mai hi yw Golygydd Radio Cymru, ac felly: "os oes yna gŵyn yn mynd i fod, neu os oes yna gefnogaeth, yna y pen yma fydd ar y bloc."

Rhaglenni'r bore

Roedd Clwyd Spencer yn teimlo bod modd olrhain y cwymp yn nifer y gwrandawyr i benderfyniad rai blynyddoedd yn ôl i newid rhaglenni'r bore, ac roedd e'n teimlo y dylid byrhau'r Post Cyntaf.

"Y diben fan hyn o ddifri... yw dweud ... y'n ni'n gallu gweld ein bod ni'n colli gwrandawyr, mae 'da ni broblem, y'n ni'n mynd i wrando felly, a gofyn pam, beth yw'r broblem... a dyna yw bwriad y Sgwrs... a dyna pam... 'mod i wrth fy modd bod dros fil o bobl wedi bod yn rhan o'r Sgwrs"...

Ychwanegodd fod pobl wedi dweud pethau cyferbyniol, er enghraifft roedd rhai am fyrhau y Post Cyntaf ac eraill am ei ymestyn.

Roedd pob gorsaf radio meddai yn ennill ei chynulleidfa erbyn 8 y bore.

Roedd ffigyrau diwethaf Radio Cymru rhyw ugain mil yn uwch, a hynny, yn ôl Betsan Powys, am fod y Post Cyntaf wedi denu mwy o wrandawyr am wyth o'r gloch.

Image caption Ymgasglodd rhyw ddau gant o bobl i glywed Betsan Powys yn ateb cwestiynau gwrandawyr ar y Maes

"Dyna oedd yr allwedd. Wedi hynny, y job yw eu cadw nhw a'u diddanu nhw, peidio â'u colli nhw... Dydy pobl ddim yn mynd i gytuno ynglyn â sut mae eu cadw. Dyna'r broblem wastad."

Lleisiau'r gwrandawyr

Dywedodd ei bod hi hefyd yn ystyried cael rhagor o gystadlaethau ar y tonfeddi unwaith eto - er mwyn i wrandawyr Radio Cymru "deimlo eu bod nhw'n cael bod yn rhan o'r gwasanaeth, bod ni'n clywed ganddyn nhw - dim ots beth yw safon y Gymraeg, os y'ch chi'n teimlo'n ddigon dewr a phwrpas mewn cystadlu neu rannu, grêt. Drws agored yw'r bwriad."

Wrth ymateb i feirniadaeth o safon yr iaith a glywir ar yr orsaf, dywedodd ei bod hi'n teimlo'n gyfrifol am safon iaith y cyflwynwyr, ond bod cyfranwyr yn fater cwbl wahanol.

"Licen i glywed pobl yn siarad y Gymraeg y maen nhw'n gartrefol yn ei siarad, yn ei siarad hi ar Radio Cymru.

"Y peth mwya' dinistriol i fi yw bod pobl yn teimlo 'dydy 'Nghymraeg i ddim yn ddigon da, felly dw i ddim yn gwrando ar Radio Cymru, dydy Radio Cymru ddim i fi'."

"...Dwi eisiau clywed pobl sy falle'n becso mymryn am siarad eu Cymraeg, ond bo' nhw'n teimlo, 'mae'n olreit, alla i ffonio Radio Cymru, alla i gystadlu, alla i anfon cais pen-blwydd, alla i ddweud diolch i rywun ar raglen Dafydd a Caryl'.

"Dwi eisiau'u clywed nhw, a dwi ddim eisiau rhoi ofn arnyn nhw, a dwi yn bendant ddim eisiau iddyn nhw deimlo bod angen gradd yn y Gymraeg arnyn nhw."

Dywedodd nad oedd hi'n cynnal trafodaethau gyda Jonsi, ond bod pobl wedi dweud wrthi "y math o beth o'dd Jonsi'n neud, y math o swn oedd gydag e, y math o bobl oedd yn mwynhau Jonsi, maen nhw wedi diffodd.

"A dwi'n gwbl, gwbl ymwybodol o hynny, a byddwn i'n dymuno eu clywed nhw eto.

Roedd un wraig wedi dweud wrthi, "Mae'ch cyflwynwyr chi i gyd yn swnio fel 'se nhw wedi bod yn y coleg."

Ymateb Ms Powys oedd, "Nawr 'sdim byd yn bod ar fod mewn coleg. Ond o'n i'n deall yn gwmws beth oedd hi'n trio dweud, a dwi'n gwrando arni."

Anghydfod Eos

Troedd y drafodaeth at yr anghydfod rhwng y BBC ac Eos ynghylch taliadau hawlfraint.

"Ym mis Medi, fe fydd yna dribiwnlys annibynnol yn dod i benderfyniad... ynglyn â gwerth masnachol y gerddoriaeth y mae Radio Cymru yn ei chwarae... A nhw fydd biau'r penderfyniad...

"Ydy'r ateb mor syml â hynny? Na, beryg nad yw e ddim... Fel golygydd newydd, dwi eisiau magu'r berthynas orau bosib efo'r cerddorion.

"Mae cerddoriaeth yn rhan gwbl allweddol o'r hyn y mae Radio Cymru yn ei wneud. Mae eisiau parch. Mae eisiau cydweithio. Mae eisiau deall ein gilydd yn does?

"Felly, waeth beth fydd penderfyniad tribiwnlys annibynnol, ac y'n ni i gyd yn gorfod derbyn hwnnw, yn sicr mae rhywun yn awyddus i weld perthynas dda sy'n ffynnu."

"Waeth beth yw penderfyniad y tribiwnlys annibynnol - fy nod i... yw bod yn agored, gwrando, egluro penderfyniadau, a cael fy ngweld a 'nghlywed yn gwneud hynny... Mae hynny'n wir i'r cerddorion fel mae e i bawb arall."

Y dyfodol

Dywedodd mai'r camau nesaf fydd "lot o waith darllen, lot o waith ystyried. Mae yna negeseuon clir, ma' 'na hefyd negeseuon cymhleth a phenderfyniadau anodd i'w gwneud, achos y'ch chi'n gwybod o'r dechrau boch chi ddim yn mynd i blesio pawb.

"Mae eisiau bod yn glir ynglyn â'r penderfyniadau, pam bod ni wedi eu gneud nhw, a tua'r hydref.. fe gewch chi gyfeiriad clir gen i o beth dwi wedi dysgu o'r sgwrs a ble dwi eisiau mynd."

Y drafodaeth hon oedd y digwyddiad olaf sydd wedi ei drefnu fel rhan o'r Sgwrs, ond os yw pobl yn dal yn awyddus i gyfrannu, mae croeso iddyn nhw wneud hynny drwy ebostio sgwrsradiocymru@bbc.co.uk neu ysgrifennu at Sgwrs Radio Cymru, Ystafell 3020, BBC Cymru Wales, Llandaf, Caerdydd, CF5 2YQ.

Straeon perthnasol