Gwrthdrawiad: Un yn yr ysbyty

Mae person yn yr ysbyty oherwydd gwrthdrawiad rhwng dau gar fore Gwener.

Roedd y ddamwain yn Stryd Morel, Y Barri, a chafodd diffoddwyr eu galw am 9.04am.

Cyrhaeddodd dau griw o'r Barri a cherbyd arbennig o Drelái, Caerdydd.