Datganoli: Diffyg gwybodaeth 'brawychus'

Panel pobl ifanc
Image caption Lleu Williams (chwith) oedd yn cadeirio'r drafodaeth gydag Owain Phillips, Catrin Dafydd a Manon George

Mae diffyg gwybodaeth yr ifanc am ddatganoli yn "frawychus" yn ôl arbenigwr.

Roedd Lleu Williams, cydlynydd prosiect corff sy'n ymdrin â datganoli o fewn y Deyrnas Unedig, yn siarad am agweddau pobl ifanc tuag at ddatganoli a gwleidyddiaeth ar Faes yr Eisteddfod.

Mae ymchwil Undeb Sy'n Newid yn awgrymu bod pobl rhwng 18 a 35 yn gwybod llai am ddatganoli nawr nac oedden nhw nôl yn 1997.

Roedd y panel drafodaeth yn un ifanc oedd yn cynnwys Owain Phillips, gohebydd gwleidyddol sy'n gweithio i ITV, Manon George sy'n darlithio ar y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd a Catrin Dafydd, awdures sydd â diddordeb cryf mewn gwleidyddiaeth.

Image copyright Undeb Sy'n Newid
Image caption Mae llai o bobl ifanc na phobl hŷn eisiau mwy o bwerau i'r cynulliad

Ddim yn gwybod

Mae Undeb Sy'n Newid yn bartneriaeth rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru, Cymru Yfory a'r Sefydliad Materion Cymreig a'i brif bwrpas yw dadansoddi ac ymchwilio i'r setliad datganoli sy'n bodoli rhwng Cymru a'r DU.

Wrth gyhoeddi adroddiad ar Faes yr Eisteddfod oedd yn edrych ar agweddau pobl tuag at ddatganoli, dywedodd Mr Williams: "Un peth oedd yn gyson yn y data yw'r ffaith bod etholwyr ifanc yn tueddu i ddewis y bocs 'ddim yn gwybod' ac os rhywbeth mae hwnna wedi cynyddu ers dechrau datganoli.

"Yn 1997 roedd 8% o etholwyr ifanc yng Nghymru ddim yn gwybod beth oedden nhw moyn fel setliad cyfansoddiadol, erbyn 2013 roedd hwnna wedi cynyddu i 14%.

"Felly dros ddegawd a hanner ar ôl datganoli mae nifer o bobl sydd ddim efalle'n gwybod am ddatganoli ac i mi mae hwnna'n rhywbeth sy'n edrych yn frawychus yn enwedig gan ystyried mai hwn yw cenhedlaeth ddatganoli mewn ffordd."

Fe wnaeth aelod o'r gynulleidfa anghytuno gyda dadansoddiad Mr Williams gan ddweud nad yw'r ffaith eu bod nhw'n ticio'r bocs 'ddim yn gwybod' yn golygu eu bod nhw ddim yn deall datganoli.

Ond roedd Mr Phillips yn anghytuno, a dywedodd bod dealltwriaeth o faterion sydd ynghlwm â phwerau'r cynulliad yn isel iawn o'i brofiad ef.

Gofynnodd Mr Williams i'r panel os oeddent yn credu mai un elfen dros ddiffyg gwybodaeth pobl ifanc (18 - 35) oedd diffyg sylw yn y wasg at faterion Cymreig.

Adrodd stori

Roedd Catrin Dafydd yn credu bod pobl angen "dechrau wrth eu traed", gan geisio dod i ddeall y Gymru sydd ohoni mewn cyd-destun mwy eang na'r un Prydeinig.

"Falle bod angen i ni feddwl sut rydym yn ymwneud â gwleidyddiaeth a sut mae democratiaeth yn gweithio yn ein cymunedau ni.

"Fi'n sgwennu ac rwy'n meddwl bod wir angen gofyn y cwestiwn o le mae'n stori ni yn cael ei hadrodd.

"Ry' ni wedi gweld yr wythnos diwethaf gyda'r isetholiad ar y teledu, neu ddim ar y teledu, o safbwynt cyn lleied o gynrychiolaeth a chyfraniaeth - mae angen inni gael clywed ynglŷn â datblygiadau cyfansoddiadol a gwleidyddol yn ein Cymru ni."

Ond doedd Owain Phillips ddim yn argyhoeddedig: "O edrych ar ITN, BBC a'r Guardian fi yn ffindo fe yn eitha' anodd i feddwl am lot o straeon mae'r papurau yn Llundain wedi methu.

"Os edrychwch chi ar y mesur organau mi wnaeth ITN rhywbeth a'r BBC a phapurau eraill hefyd.

"Yn edrych ar straeon eraill fi yn ffindo fe'n anodd i neud dadl y dylen nhw fod wedi bod yn y papur yn y lle cyntaf."

Dim diddordeb?

Y cwestiwn mawr, yn ôl Manon George, oedd pam nad oedd pobl yn gwybod sut fath o gyfansoddiad maen nhw eisiau ar gyfer Cymru?

"Mae yna dri pheth sef diffyg diddordeb, diffyg dealltwriaeth a diffyg darpariaeth mewn addysg.

"O ran diddordeb - dyw gwleidyddiaeth ddim yn rhywbeth mae pobl yn siarad amdano fo ond eto myfyrwyr sy'n dweud nad oes ganddynt ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yw'r cyntaf i gwyno am bris peint neu docyn trên neu'r benthyciadau myfyrwyr neu pa mor hir maen nhw'n gorfod aros i weld y doctor.

"Dydyn nhw ddim yn sylwi bod hynny yn wleidyddiaeth - does dim digon yn sylwi bod gwleidyddiaeth yn rhywbeth sy'n digwydd o'n cwmpas ni bob dydd.

"Mae'r ffigwr yn dweud bod 35% yn 2012 yn dymuno gweld setliad yn aros fel mae hi, sy'n golygu eu bod nhw'n hapus efo'r setliad o ran datganoli ond mae'n gwestiwn gen i os ydyn nhw'n deall y setliad datganoli sydd gennom ni ar hyn o bryd.

"Dwi newydd fod yn darlithio ym mhabell Prifysgol Caerdydd yn rhestru'r holl wendidau sydd gennym ni o ran y setliad presennol a sut rydym gymaint yn israddol o'i gymharu â'r Alban - ydy'r bobl ifanc sy'n dweud eu bod nhw'n hapus efo'r drefn wir yn deall datganoli?"

Yn ôl Manon un o'r prif resymau dros ddiffyg gwybodaeth pobl ifanc yw'r ffaith mai hanes y Tuduriaid sy'n cael ei ddysgu yn yr ysgol a bod hyn ar draul gwersi mwy perthnasol ynglŷn â gwleidyddiaeth heddiw.

"Dydw i ddim yn meddwl bod addysg heddiw yng Nghymru yn ymateb i'r Gymru ôl-ddatganoliedig.

"Yn wyth oed roeddwn i'n gallu rhestru pob un o wragedd Harri VIII ond os fysech chi'n gofyn i mi am y dangosyddion gwladol dros Gymru a gwleidyddion blaenllaw fyddwn i byth yn gallu ateb.

"Mae addysg yng Nghymru angen edrych ar hanes y blynyddoedd diwethaf yn lle edrych yn ôl canrifoedd."

Gobaith Undeb Sy'n Newid yw y bydd pobl ifanc yn cymryd mwy o ddiddordeb yn niddordeb cyfansoddiadol eu gwlad yn enwedig nawr bod refferendwm annibyniaeth yr Alban ar y gorwel.

Yn ôl Lleu Williams mae rhaid bod yn wyliadwrus rhag apathi - doedd dim llawer ohono i'w weld yn y babell gymdeithasau ar y Maes brynhawn Gwener.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.