Hofrennydd yn chwilio am ddyn ar goll yn Wrecsam

Mae hofrennydd yr heddlu wedi bod yn chwilio am ddyn 72 oed ar goll yn Wrecsam.

Does neb wedi gweld Peter Quinn ers iddo ddiflannu yn ardal Cymau am 4.30am fore Sadwrn.

Mae'n chwe throedfedd o daldra a chanddo wallt byr llwyd neu wyn.

Roedd yn gwisgo top glas, trowsus byr lliw hufen, ac esgidiau brown.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.