Apelio am dystion wedi damwain beic modur ger Corwen

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi marwolaeth beiciwr modur lleol ar yr A494 ger Corwen ddydd Sadwrn.

Bu farw'r dyn 23 oed yn y fan a'r lle ar ôl taro jîp .

Roedd y ddamwain rhwng Gwyddelwern a Bryn Saith Marchog am 3.35pm.

Chafodd neb yn y jîp ei anafu.