Gary Medel yn arwyddo i Gaerdydd

Gary Medel Image copyright Arall
Image caption Deellir bod Caerdydd wedi talu £11 miliwn am y dyn 26 oed sy'n chwarae i Chile.

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae Gary Medel o Sevilla ar gytundeb pedair blynedd.

Deellir bod Caerdydd wedi talu £11 miliwn am y dyn 26 oed sy'n chwarae i Chile.

"Rydyn ni ar ben ein digon," meddai'r rheolwr Malky Mackay ar wefan swyddogol Dinas Caerdydd.

"Mae Gary'n ddeallus ac yn ddygn."

Talodd Caerdydd £8 miliwn am Steven Caulker a £7.5 miliwn am Andreas Cornelius ddechrau Gorffennaf.

Yr amddiffynnwr John Brayford a'r gôl geidwad Simon Moore yw'r chwaraewyr eraill sy' wedi symud i Gaerdydd dros yr haf.

Straeon perthnasol