Rhybudd i ddringwyr: 'Peidiwch â ddibynnu ar ffôn symudol'

Ffôn Image copyright PA
Image caption Dywed y timau achub na ddylent ddibynnu ar ffôn symudol ar gyfer llywio

Mae rhybudd i ddringwyr yn Eryri beidio â dibynnu ar ffôn symudol ar gyfer llywio wedi i achubwyr dreulio oriau'n chwilio am dri.

Roedd y tri yn eu dauddegau o ardal Llundain ac yn ceisio dringo 14 o fynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi o uchder.

Wrth iddi nosi ac wrth i'r tywydd ddirywio aeth y tri ar goll ar y mynydd ola', Foel Fras.

Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen lwyddodd i'w hachub ar doriad gwawr ddydd Sul.

"Doedd eu cyfarpar cerdded ddim yn ddigon," meddai llefarydd.

"Nid oedd ganddyn brofiad o gerdded ar y mynydd chwaith."