Bad achub yn achub saith ger Porthmadog

Mae bad achub wedi achub saith oedd mewn trafferth yn y môr ger Traeth y Graig Ddu ger Porthmadog yng Ngwynedd.

Roedd hyn am 2.45pm.

Aed â dau i'r ysbyty ond does dim manylion am eu cyflwr.