Saethu: Heddlu'n disgwyl holi gŵr

Police at the scene of fatal shooting in Seabreeze Avenue, Newport Image copyright PA
Image caption Mae'r heddlu'n dal i edrych ar dystiolaeth fforensig ar safle'r saethu ddydd iau diwethaf

Dywed yr heddlu ei bod yn rhy fuan i holi dyn 49 oed a gafodd ei anafu'n ddifrifol iawn mewn digwyddiad lle cafodd ei wraig ei lladd.

Dioddefodd Christopher Parry anafiadau i'w ben, a bu farw ei wraig Caroline, 46 oed ac wedi gwahanu oddi wrtho, yn y digwyddiad yng nghanol Casnewydd ddydd Iau diwethaf.

Mae Mr Parry bellach mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Dywed Heddlu Gwent y bydd arbenigwyr meddygol yn penderfynu pryd y bydd yn ddigon iach i siarad gyda heddweision.

Meddai llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae ei gyflwr wedi gwella rhywfaint, ac mae Mr Parry bellach yn cael ei ddisgrifio fel bod mewn cyflwr sefydlog.

"Ond mae'n rhy fuan i ddweud pryd y bydd ein swyddogion yn medru siarad ag ef am ddigwyddiadau'r wythnos ddiwethaf."

Mae'r heddlu'n parhau i holi tystion ac yn edrych ar dystiolaeth fforensig a chamerâu cylch cyfyng wrth i'r ymchwiliad i'r saethu barhau.

Cafodd yr heddlu eu galw i Seabreeze Avenue am 8:45am ddydd Iau wedi i'r ddau gael eu canfod gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd trigolion iddyn nhw glywed tair ergyd o wn cyn canfod y ddau'n gorwedd ar lawr.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle bu farw Mrs Parry'n ddiweddarach.

Dros y penwythnos, dywedodd yr heddlu eu bod wedi cipio tri gwn oedd yn "eiddo cyfreithiol" i Mr Parry o eiddo yng Nghwmbrân.

Deellir bod Mrs Parry wedi symud o'i chartref yng Nghroesyceiliog, Cwmbrân, yn ddiwedd a'i bod yn byw yng Nghasnewydd.

Roedd Heddlu Gwent yn ymwybodol o drafferthion yn y berthynas rhwng y ddau eisoes, ac mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i'r mater.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.