Morgannwg yn ennill eto

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Mae Morgannwg wedi curo Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth y YB40 yn Stadiwm Swalec nos Lun.

Ar ôl galw'r gywir a dewis maesu, fe gafodd bowlwyr y tîm cartref ddechrau gwych gan gipio wiced Marcus Trescothick heb sgorio yn y belawd gyntaf.

Cafodd Simon Jones y pleser o gipio wiced cyn gapten Morgannwg, Alviro Peterseon, am 10, ond roedd Joss Buttler a Nick Compton yn fwy o broblem i Forgannwg yng nghanol batiad yr ymwelwyr.

Ond er i Compton gyrraedd 50 a Buttler 67, chafon nhw fawr o gymorth gan y gweddill, ac fe ddaeth batiad Gwlad yr Haf i ben ar 222 am 8 wiced ar ddiwedd y 40 pelawd.

Chafodd Morgannwg mo'r dechrau delfrydol chwaith gan golli wiced Gareth Rees am un rhediad.

Ond yna daeth partneriaeth wych rhwng y capten Mark Wallace a Chris Cooke i ychwanegu 119 am yr ail wiced, ac roedd hi'n ymddangos y byddai buddugoliaeth yn hawdd i'r tîm cartref.

Ond fe gipiodd Steven Kirby dair wiced i'r ymwelwyr i'w gwneud hi'n ddiweddglo cyffrous - ac fe chwalodd Morgannwg o dan y pwysau.

Er nad oedd brys i sgorio, collodd y tîm cartref wicedi un ar ôl y llall wrth i Forgannwg fynd o 195 am 4 i 215 am 9 o fewn ychydig belawdau.

Gyda phelawd yn weddill roedd angen un rhediad ar Forgannwg ac un wiced ar Wlad yr Haf - ac fe darodd Simon Jones ergyd i'r ffin i gipio'r fuddugoliaeth o un wiced.

Sgôr terfynol:

Gwlad yr Haf - 222 am 8 wiced (40 pelawd)

Morgannwg - 226 am 9 wiced (39.3 pelawd)