Greene a Williams yn methu'r ffeinal

Dai Greene
Image caption Pumed oedd Dai Greene yn ei ras yntau

Ofer fu ymdrech Dai Greene i amddiffyn ei deitl fel pencampwr byd y ras 400m dros y clwydi ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd ym Moscow.

Roedd Greene a'i gyd-Gymro Rhys Williams yn rhedeg yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth yn Stadiwm Luznikhi.

Williams oedd y cyntaf o'r ddau i redeg yn yr ail ras o dair. Cafwyd perfformiad ardderchog gan y Cymro wrth orffen yn bedwerydd gydag amser o 49.29 eiliad.

Dim ond y ddau gyntaf ymhob ras ynghyd â'r ddau gollwr cyflymaf oedd yn ennill eu lle yn y rownd derfynol.

Gan iddo gael rownd ragbrofol siomedig tu hwnt, roedd Greene yn y drydedd ras - yr un anoddaf.

Gorffennodd Greene yn bumed gydag amser o 49.25.

Mae Greene wedi cael blwyddyn anodd gydag anafiadau ers cyn y Gemau Olympaidd yn Llundain y llynedd.

Cafodd anaf i'w goes fis diwethaf, ac yna fe gafodd salwch dros y penwythnos ac roedd yn cyfadde wedi'r ras nad oedd ei baratoad ar gyfer y bencampwriaeth wedi bod yn ddigon da.