Cymro wedi marw yn Ibiza

Grant Weston Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Grant Weston ar wyliau yn Ibiza gyda chriw o ffrindiau

Daeth cadarnhad gan y Swyddfa Dramor bod dyn o Sir Benfro wedi marw wedi iddo ddisgyn o falconi gwesty yn Ibiza.

Roedd Grant Weston, 24 oed o Benfro, wedi teithio i'r ynys ar wyliau gyda chriw o ffrindiau.

Roedd wedi bod am noson allan gyda nhw, ond fe ddisgynnodd o'r balconi yn y gwesty yn San Antonio yn ddiweddarach.

Mae'r heddlu ar yr ynys yn holi ei ffrindiau, ond nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Roedd Mr Weston yn chwarae i dîm pêl-droed lleol Hundleton, ac maen nhw wedi dweud na fyddan nhw yn chwarae mewn gêm oedd fod i gael ei chynnal nos Fercher fel arwydd o barch.

Colled

Dywedodd rheolwr y tîm Mark Powell:

"Roedd yn fachgen da ac mae'n greulon iawn ei fod wedi cael ei gymryd oddi arnom.

"Roedd ganddo synnwyr digrifwch penigamp, ac rwyf wedi ei nabod ers wyth mlynedd.

"Bydd yn golled fawr i'r clwb, ond wrth gwrs rwy'n teimlo dros ei rieni."

Roedd Mr Weston yw byw gyda'i rieni Kim a Sheila, ac mae'n gadael brawd Robert, 22 oed.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Gallwn gadarnhau fod Prydeiniwr, Grant Weston, wedi marw yn Ibiza ar Awst 14.

"Rydym yn cynnig cymorth consylaidd i'w deulu yn ystod y cyfnod anodd yma."