100 o swyddi yn fantol mewn pwll glo

Fe allai cymaint â chant o bobl ym mhwll glo mwyaf Cymru golli eu gwaith meddai'r undeb NUM.

Dywedodd Wayne Thomas, ysgrifennydd cyffredinol Cymru ar gyfer NUM y byddai yn cynnal trafodaethau gyda thîm rheoli'r pwll glo yng Ngwmgwrach Castell Nedd ddydd Llun.

Mae'r pwll yn cyflogi mwy na 200 o weithwyr.

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu gyda'r pwll glo ond doedd neb ar gael i roi sylw.