Tamworth 2-2 Wrecsam

Clwb Pêl-droed Wrecsam Image copyright Other

Tamworth 2-2 Wrecsam

Roedd cyfuniad o anafiadau a cherdyn coch Stephen Wright ganol wythnos yn golygu bod gan Wrecsam drafferthion wrth ddewis yr unarddeg i wynebu Tamworth ddydd Sadwrn.

Er hynny, fe ddechreuodd yr ymwelwyr drwy reoli'r meddiant yn y cyfnod agoriadol, ond heb lwyddo i greu cyfle gwirioneddol.

Ac fe dalodd Wrecsam y pris am hynny wedi 19 munud.

Roedd Mayebi yn y gôl eisoes wedi gorfod gwneud arbediad da o ergyd Richard Peniket, ond doedd dim y gallai fod wedi gwneud i atal ergyd Jake Jones - Tamworth ar y blaen.

Ond fe ddaeth ymateb da gan Wrecsam gyda Kevin Thornton a Joe Clarke yn ergydio'n dda.

Fe gafodd Wrecsam eu haeddiant, ac wedi 37 munud roedden nhw'n gyfartal gyda Brett Ormerod yn rhwydo.

Cyn hanner amser fe gafodd Tamworth gic o'r smotyn wedi trosedd yn y cwrt gan Kevin Thornton ar Jake Jones, ond fe gafodd cynnig Jack Evans o'r smotyn ei arbed yn gampus gan Joslain Mayebi i'w chadw hi'n gyfartal ar yr egwyl.

Roedd yr ail hanner yn fwy bywiog gyda'r ddau dîm yn cael cyfleoedd.

Wedi 70 munud fe adawodd Ormerod y cae gyda Bradley Reid yn dod i'r cae yn ei le, ac roedd ysbrydoliaeth yn yr eilyddio i Wrecsam.

Naw munud ar ôl dod i'r cae, Reid gafodd y gôl a roddodd Wrecsam ar y blaen. Daeth y gôl ar ddiwedd cyfnod o bwyso wedi i Tamworth fethu â chlirio cic gornel, ac fe aeth ergyd Reid i'r gornel.

Ond roedd amser am un arall, a thro'r tîm cartref oedd unioni'r sgôr y tro hwn - Darren Byfield y sgoriwr wedi 84 munud.

Er i'r ddau dîm bwyso yn y munudau olaf, doedd dim mwy o sgorio - Wrecsam felly gyda phedwar pwynt o'u tair gêm agoriadol.

Straeon perthnasol