Saethu Casnewydd: Gohirio cwest

gwasanaethau brys ar y safle Image copyright John Seer
Image caption Y gwasanaethau brys yn delio gyda'r digwyddiad ar Awst 8

Mae cwest i farwolaeth Caroline Parry, 46 oed, wedi cael ei agor a'i ohirio er mwyn caniatáu i'r heddlu barhau â'u hymchwiliad.

Cafwyd hyd iddi yn Seabreeze Avenue, Casnewydd, ar Awst 8 gydag anafiadau ergyd gwn ar ei chefn.

Cafwyd hyd i'w gŵr oedd wedi gwahanu, Christopher Parry, 49 oed, gydag anafiadau ergyd gwn yn ei wyneb.

Casglodd archwiliad post mortem yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, mai anafiadau ergyd gwn oedd achos marwolaeth Caroline Parry.

Rhyddhau

Dywedodd y crwner David Bowen y byddai'n gohirio'r cwest am dri mis.

Bydd ei chorff yn cael ei ryddhau i'w theulu er mwyn eu galluogi i gynnal angladd.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu'n edrych ar rôl yr heddlu cyn y saethu, yn benodol tri digwyddiad rhwng Mai a Gorffennaf pan gafodd yr heddlu eu galw.

Yn ystod y dyddiau wedi'r saethu daeth yr heddlu o hyd i dri dryll yr oedd Mr Parry'n meddu arnyn nhw'n gyfreithiol.

Roedd y drylliau mewn tŷ yng Nghwmbrân.

Deellir bod Mrs Parry, oedd yn fam, wedi symud o Groesyceiliog, Cwmbrân, i Gasnewydd.