Gwobr Gerddoriaeth Gymreig: Rhestr fer

Logo Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Image copyright Other
Image caption Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

Mae'r 12 albwm ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2013 wedi eu cyhoeddi.

Dyma drydedd flwyddyn y wobr, a dywedodd un o'i sylfaenwyr Huw Stephens fod "y rhestr fer eleni eto yn un eclectig a chyffrous".

Yn ystod yr hydref, bydd dwsin o feirniaid o'r diwydiant cerddoriaeth yn chwynnu'r rhestr, cyn pleidleisio ar y 5 albwm terfynol.

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno ar Hydref 17 fel rhan o Ŵyl Sŵn.

Y 12 albwm sydd ar y rhestr yw:

Euros Childs - Summer Special

Fist of the First Man - Fist of the First Man

Georgia Ruth - Week of Pines

Laurence Made Me Cry - The Diary of Me

Little Arrow - Wild Wishes

Metabeats - Caviar Crackle

Neon Neon - Praxis Makes Perfect

Race Horses - Furniture

Sweet Baboo - Ships

Trwbador - Trwbador

Winter Villains - February

Zervas and Pepper - Lifebringer

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.