Sylwadau sarhaus am y chwilio am April

April Jones
Image caption Mae Mark Bridger, 47 oed, oedd yn euog o gipio April a'i llofruddio, yn y carchar oherwydd dedfryd oes.

Yn yr Alban mae barnwr wedi rhybuddio dyn o Ogledd Ayrshire ei fod yn wynebu cyfnod dan glo am bostio negeseuon sarhaus ar wefan Facebook am y chwilio am April Jones.

Roedd Liam Young, 25 oed o Ardrossan, wedi gwneud y sylwadau ddeuddydd ar ôl i'r ferch fach bump oed o Fachynlleth gael ei chipio gan Mark Bridger.

Yn Llys y Siryf Kilmarnock fe'i cafwyd yn euog o ymddygiad afreolus a'i ryddhau ar fechnïaeth.

Nid oedd Gordon Mullen, 24 oed o Saltcoats, Gogledd Ayrshire, oedd yn wynebu'r cyhuddiad, yn y llys ac mae'r heddlu'n ymchwilio.

Yn y cyfamser, mae Mark Bridger, 47 oed, oedd yn euog o gipio April a'i llofruddio, yn treulio gweddill ei oes yn y carchar.

Straeon perthnasol