Dyn oedrannus o Benllech â 235,000 o ddelweddau

Llys y Goron Caernarfon
Image caption Roedd yr achos yn Llys y Goron Caernarfon

Clywodd llys fod dyn 70 oed o Ynys Môn â 235,000 o ddelweddau o blant wedi eu cam-drin yn rhywiol am fod "ysfa ynddo i'w casglu".

Plediodd Robert O'Brien o Benllech yn euog i gyhuddiad o wneud a meddu ar luniau anweddus o blant a meddu ar 870 o fideos anweddus ohonyn nhw.

Yn Llys y Goron Caernarfon fe gafodd fechnïaeth.

Dywedodd y Barnwr Philip Hughes y byddai'n "ystyried pob opsiwn, gan gynnwys carcharu".

Dywedodd James Conod ar ran yr amddiffyn: "Mae cywilydd mawr arno ac mae'n ddrwg iawn ganddo."